Meddiannaeth Ffrainc gan yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Oddi ar Wicipedia
Meddiannaeth Ffrainc gan yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Enghraifft o'r canlynolLlywodraeth Filwrol, cyfnod o hanes Edit this on Wikidata
Mathtiriogaeth dan feddiant Edit this on Wikidata
Label brodorolMilitärverwaltung in Frankreich Edit this on Wikidata
Dechreuwyd22 Mehefin 1940 Edit this on Wikidata
Daeth i benAwst 1944, 4 Hydref 1943 Edit this on Wikidata
Enw brodorolMilitärverwaltung in Frankreich Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Almaen Natsïaidd, Ffrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adolf Hitler ym Mharis ar 30 Gorffennaf 1940.

Yn dilyn cwymp Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd ardal ogleddol a gorllewinol Ffrainc ei feddiannu gan yr Almaen Natsïaidd o fis Mai 1940 hyd Ragfyr 1944. Cafodd y llywodraeth Almaenig yn y diriogaeth a feddiannwyd ei galw'n y Weinyddiaeth Filwrol yn Ffrainc (Almaeneg: Militärverwaltung in Frankreich), a elwir y rhanbarth yn y zone occupée. Bu rhanbarth bach a feddiannwyd gan yr Eidal yn y de ddwyrain, a rhanbarth na chafodd ei feddiannu, y zone libre, yn y de. Cafodd rhanbarthau Alsace a Lorraine eu hymgorffori'n rhan o'r Almaen. Gweinyddodd ôl-wladwriaeth Llywodraeth Vichy y tri rhanbarth hyn yn ôl termau'r cadoediad. Yn Nhachwedd 1942, meddiannodd lluoedd yr Axis y zone libre yn ogystal, a bu Ffrainc fetropolitanaidd dan feddiannaeth yr Axis nes glanio'r Cynghreiriaid ym 1944.

Yn ystod y feddiannaeth adeiladwyd gwersylloedd crynhoi yn Ffrainc a bu arwahanu yn erbyn Iddewon, er enghraifft bu raid iddynt wisgo seren felen. Cafodd niferoedd mawr o Iddewon Ffrengig eu danfon i wersylloedd difa'r Natsïaidd yng Ngwlad Pwyl. Bu nifer o Ffrancod yn cydweithio â'r Natsïaidd yn ystod y feddiannaeth, a nifer eraill yn eu gwrthwynebu trwy'r résistance. Mae etifeddiaeth yr agweddau hon o'r rhyfel yn bwnc dadleuol yn Ffrainc hyd heddiw.