Max Horkheimer

Oddi ar Wicipedia
Max Horkheimer
Ganwyd14 Chwefror 1895 Edit this on Wikidata
Stuttgart, Zuffenhausen Edit this on Wikidata
Bu farw7 Gorffennaf 1973 Edit this on Wikidata
Nürnberg Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Hans Cornelius Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, addysgwr, cymdeithasegydd, academydd, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amGesammelte Schriften, Dialektik der Aufklärung, Eclipse of Reason Edit this on Wikidata
MudiadYsgol Frankfurt Edit this on Wikidata
TadMoses Moritz Horkheimer Edit this on Wikidata
Gwobr/auDinasyddiaeth anrhydedd Frankfurt am Main, Plac Goethe Dinas Frankfurt am Main, Goethe-Plakette des Landes Hessen, Q1021210 Edit this on Wikidata

Athronydd Marcsaidd a chymdeithasegydd o Almaenwr oedd Max Horkheimer (14 Chwefror 18957 Gorffennaf 1973) sydd yn nodedig am arwain Ysgol Frankfurt ac am ddatblygu damcaniaeth feirniadol.

Bywyd cynnar ac addysg (1895–1922)[golygu | golygu cod]

Ganed Max Horkheimer ar 14 Chwefror 1895 i deulu Iddewig yn Zuffenhausen, un o ardaloedd dinas Stuttgart, Teyrnas Württemberg, Ymerodraeth yr Almaen. Dyn busnes oedd ei dad, Mortiz Horkheimer, a oedd yn berchen ar sawl ffatri tecstilau yn Zuffenhausen. Gadawodd Max yr ysgol ym 1910 i weithio ym musnes y teulu, a fe'i penodwyd yn rheolwr ieuaf.[1]

Dechreuodd Max astudio ym Mhrifysgol München ym 1919 cyn iddo drosglwyddo i Brifysgol Frankfurt am Main ar ôl un tymor academaidd. Astudiodd seicoleg ac athroniaeth ym Mhrifysgol Frankfurt, a threuliodd hefyd flwyddyn yn astudio dan Edmund Husserl ym Mhrifysgol Freiburg.[1] Derbyniodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Frankfurt ym 1922.[2]

Gyrfa academaidd gynnar (1922–33)[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd Horkheimer ar ei yrfa academaidd yn isddarlithydd i'w diwtor, Hans Cornelius.[1] Penodwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Frankfurt ym 1926, a threuliodd bedair blynedd yn y swydd honno cyn ei ddyrchafu'n athro athroniaeth gymdeithasol. Ymaelododd â'r Institut für Sozialforschung (IfS; Athrofa Ymchwil Cymdeithasol), a sefydlwyd mewn cysylltiad â'r brifysgol ym 1923 gan y Marcsydd Felix Weil. Ym 1930 penodwyd Horkheimer yn gyfarwyddwr yr IfS, a dan ei arweiniad atynnai'r athrofa nifer o gwyddonwyr cymdeithasol, athronwyr, a damcaniaethwyr gwleidyddol o nod, yn eu plith Theodor W. Adorno, Erich Fromm, Leo Löwenthal, Herbert Marcuse, a Franz Neumann. Bu Horkheimer hefyd yn olygydd y cyfnodolyn academaidd Zeitschrift für Sozialforschung a gyhoeddwyd gan yr IfS o 1932 i 1941. Rhoddwyd yr enw Ysgol Frankfurt ar y mudiad deallusol a arloeswyd gan Horkheimer a'i griw, a oedd yn ceisio cyfuno athroniaeth ac hanesyddiaeth Farcsaidd â gwyddorau cymdeithas, yn enwedig economeg, hanes, cymdeithaseg, athroniaeth gymdeithasol, a seicdreiddiad.[2]

Ym 1926 priododd Horkheimer â Rose Riekher, a oedd yn ysgrifenyddes i'w dad Moritz. Buont yn briod nes iddi farw ym 1969.[1]

Cyfnod alltud yn yr Unol Daleithiau (1933–49)[golygu | golygu cod]

Wedi i Adolf Hitler gipio grym ym 1933, ffoes Horkheimer a sawl aelod arall o'r IfS, nifer ohonynt yn Iddewon, rhag erledigaeth yn yr Almaen Natsïaidd. Ymfudodd Horkheimer i Unol Daleithiau America ac ymsefydlodd yn Efrog Newydd. Yno, ailsefydlodd yr IfS ym Mhrifysgol Columbia a dechreuodd ailgyhoeddi'r Zeitschrift für Sozialforschung. Ysgrifennodd Horkheimer sawl traethawd ar gyfer y Zeitschrift yn datblygu ei syniadaeth ynglŷn â damcaniaeth feirniadol.[2]

Bu'n rhaid rhoi'r gorau i weithgareddau'r IfS ym 1941 o ganlyniad i drafferthion ariannol. Symudodd Horkheimer i Los Angeles ac yno fe gydweithiodd ag Adorno i gyflawni'r astudiaeth ddylanwadol Dialektik der Aufklärung (1947), sydd yn ymdrin â thwf Natsïaeth a Staliniaeth a'u perthynas â'r Oleuedigaeth. Cyhoeddodd Horkheimer waith tebyg yn Saesneg, Eclipse of Reason (1947).[2]

Diwedd ei oes (1949–73)[golygu | golygu cod]

Dychwelodd Horkheimer i Orllewin yr Almaen ym 1949. Ailsefydlodd yr IfS ym Mhrifysgol Frankfurt ym 1950, a gwasanaethodd yn gyfarwyddwr unwaith eto nes 1958. Gwasanaethodd hefyd yn rheithor Prifysgol Frankfurt. Mae ei ysgrifeniadau yng nghyfnod diweddar ei yrfa yn ymwneud ag athroniaeth Arthur Schopenhauer ac athroniaeth crefydd.[2] Symudodd i bentref Montagnola yn y Swistir ym 1958.[1] Bu farw Max Horkheimer ar 7 Gorffennaf 1973 yn Nürnberg yn 78 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) J. C. Berendzen, "Max Horkheimer" yn Stanford Encyclopedia of Philosophy (Prifysgol Stanford, 2017). Adalwyd ar 23 Ebrill 2020.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 (Saesneg) Max Horkheimer. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ebrill 2020.