Mavis Nicholson

Oddi ar Wicipedia
Mavis Nicholson
GanwydMavis Mainwaring Edit this on Wikidata
19 Hydref 1930 Edit this on Wikidata
Llansawel Edit this on Wikidata
Bu farw8 Medi 2022 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Awdur a darlledwr o Gymraes oedd Mavis Nicholson (19 Hydref 19308 Medi 2022).[1][2][3]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yn Mavis Mainwaring a threuliodd ei phlentyndod yn Llansawel. Aeth i astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Yno yn 1949 cyfarfu'r awdur a'r newyddiadurwr, Geoffrey Nicholson, ac fe briododd y ddau yn 1952, a chawsant dri mab.

Yn 1951, ar ddiwedd ei gyrfa israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, enillodd Nicholson ysgoloriaeth i hyfforddi fel ysgrifennwr copi hysbysebu a gyda hyn symudodd i Lundain.

Yn Llundain, roedd hi a'i gŵr yng nghanol cylch cymdeithasol bywiog cylch, yn gynnwys y newyddiadurwr a'r darlledwr John Morgan a'r nofelydd Kingsley Amis. Yn ôl ysgrif goffa o'i gŵr gan Peter Corrigan,[4] daeth Mavis a Geoff Nicholson yn "...much-loved double-act. Amis did not always approve of their views and claimed to have invented the word "lefties" during one little set-to with them. While it was true that the Nicholsons didn't have dinner parties as such - they invited people for an argument and threw some food in - they were by no means belligerent but had in abundance the Welsh love of debate."

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gorffennodd Nicholson ei gwaith fel ysgrifennwr copi hysbysebu pan gafodd blant, ond cychwynnodd ail yrfa fel darlledwr pan ofynnwyd iddi gyflwyno rhaglen newydd, oherwydd ei arddull sgwrsio treiddgar a diddorol wrth y bwrdd cinio. Dangoswyd y rhaglen ar deledu yn ystod y dydd, oedd newydd gychwyn (yn flaenorol roedd teledu Prydeinig yn dechrau darlledu yn hwyr yn y prynhawn).

Ei swydd cyntaf fel cyflwynydd oedd ar y sioe 'Good Afternoon' yn 1972, a pharhaodd ei gyrfa teledu am y 25 mlynedd nesaf.[5]

Cyflwynodd rhaglenni teledu Prydeinig fel Afternoon, Afternoon Plus a Mavis On Four o'r 1970au hyd at y 1990au, lle bu'n cyfweld enwogion mawr fel Elizabeth Taylor, David Bowie, Peter Cook a Dudley Moore.[6][7][8] Cyflwynodd nifer o sioeau radio hefyd, gan gynnwys hanes y siop adrannol a golwg yn ôl ar ei phlentyndod.[9]

Ei gwaith olaf ar gyfer y teledu oedd Oldie TV yn 1997, fersiwn deledu o gylchgrawn The Oldie. Roedd yn ysgrifennu ar gyfer The Oldie, yn ysgrifennu colofn 'fodryb ofidiau' y cylchgrawn, hyd at 2014.[10][11]

Yn 1992, ysgrifennodd ei hunangofiant yn y llyfr Martha Jane and Me - A Girlhood in Wales.[12]

Yn Hydref 2018, enillodd wobr BAFTA Cymru am Gyfraniad Rhagorol i Ddarlledu.[13]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Erbyn diwedd yr 1980au symudodd Mavis a'i gŵr i fyw yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant mewn tŷ ffarm ac ysgubor wedi ei addasu.

Bu farw Geoff yn 1999. Bu farw Mavis yn 91 mlwydd oed, ym mis Medi 2022.[14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Mavis Nicholson IMDB entry". IMDB. 2007.
  2. Chilton, Martin (1 June 2011). "Hay Festival: day seven as it happened". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 30 July 2015.
  3. @BRNicholson (2022-09-10). "I am incredibly sad to confirm that my grandmother Mavis Nicholson passed away on Thursday. She was a force of nature, an incredible broadcaster, so open-hearted and interested in everyone. She was also my Nana and I miss her like mad. Hope she's with my granddad Geoff now" (Trydariad) – drwy Twitter.
  4. Peter Corrigan (1999-08-04). "Obituary: Geoffrey Nicholson - Arts & Entertainment". The Independent. Cyrchwyd 2012-06-12.
  5. "Film & TV Database - Nicholson, Mavis". The Independent. 2005-10-31. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-24. Cyrchwyd 2016-05-05.
  6. "North Powys Youth Music by Mavis Nicholson". North Powys Youth Music. 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-08. Cyrchwyd 2016-05-05.
  7. "Bowie Golden Years: ITV February 1979". Bowie Golden Years. 2007.
  8. "Good Afternoon!: Good Afternoon[RX 01/08/74]". BFI. 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-14. Cyrchwyd 2016-05-05.
  9. "Radio Listings "Mavis Nicholson"". Radio Listings. 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-01. Cyrchwyd 2016-05-05.
  10. "Magazines: The Oldie". The Independent. 2005-10-31. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-07. Cyrchwyd 2016-05-05.
  11. "Miles Kington: Trapped in the Med with the wise and witty Oldies". The Independent. 2006-11-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-30. Cyrchwyd 2016-05-05.
  12. "WorldCat: Martha Jane & Me : A Girlhood In Wales". WorldCat. 2007.
  13.  Winners of the British Academy Cymru Awards 2018 announced. BAFTA Cymru (14 Hydref 2018). Adalwyd ar 15 Hydref 2018.
  14. Mavis Nicholson obituary (en) , theguardian.co.uk, 11 Medi 2022.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]