Matteo Maria Boiardo

Oddi ar Wicipedia
Matteo Maria Boiardo
Ganwyd1441 Edit this on Wikidata
Scandiano Edit this on Wikidata
Bu farw19 Rhagfyr 1494, 28 Rhagfyr 1494, 1494 Edit this on Wikidata
Reggio Emilia Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amOrlando Innamorato Edit this on Wikidata
Arddullsoned, canzone Edit this on Wikidata
PriodTaddea Gonzaga Edit this on Wikidata
PlantCamillo Boiardo Edit this on Wikidata
LlinachQ16533078 Edit this on Wikidata

Bardd Eidalaidd yn yr ieithoedd Eidaleg a Lladin a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Matteo Maria Boiardo (Mai neu Fehefin 144119 Rhagfyr 1494) sydd yn nodedig am ei arwrgerdd Orlando innamorato, y gerdd gyntaf i gyfuno elfennau Cylch Arthur â'r rhamant Garolingaidd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed yn Scandiano, ger dinas Reggio nell'Emilia, yn Nhaleithiau'r Babaeth, a chafodd ei fagu yn Ferrara. Aelod o deulu cefnog ydoedd, a threuliodd ei oes yng ngwasanaeth Tŷ Este, a fu'n rheoli Dugiaeth Ferrara a Dugiaeth Modena a Reggio. Gwasanaethodd Boiardo yn gapten ar luoedd y Dug Ercole I d'Este ym Modena o 1480 i 1482 ac yn Reggio o 1487 hyd at ei farwolaeth.[1] Bu farw yn Reggio nell'Emilia yn 53 oed.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Cyfansoddai Boiardo ei farddoniaeth gynnar yn Lladin, ac ysgrifennodd hefyd yn Eidaleg eclogau a chyfrol o delynegion serch ar batrwm Francesco Petrarca yn dwyn y teitl Amorum libri tres (1499).

Cychwynnodd ar ei gampwaith, Orlando innamorato, tua 1476, gyda'r nod o ysgrifennu tair rhan. Cyhoeddwyd y ddwy ran gyntaf ym 1483, ond bu'r gwaith yn anorffenedig ganddo a dim ond ychydig o'r drydedd ran a gyflawnwyd cyn ei farwolaeth. Tynnai'r gwaith ar ddeunydd o lenyddiaeth Roeg, Lladin, Ffrangeg, ac Eidaleg, ac o sawl genre, a'i brif themâu ydy sifalri, dewrder milwrol, gwladgarwch, a chrefydd. Nodweddir y gerdd gan ieithwedd ddysgedig, ac yn ôl nifer o feirniaid metha cymeriadaeth y bardd a'i ymdrechion i lunio hynt y stori. Er nad oedd Orlando innamorato yn boblogaidd, cafodd ddylanwad pwysig ar ffurf yr arwrgerdd. Codai pen llinyn y stori gan Ludovico Ariosto yn ei gerdd ffantasi epig Orlando furioso (1516), un o fydryddweithiau gwychaf y Dadeni.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]