Matholwch

Oddi ar Wicipedia

Matholwch yw brenin Iwerddon yn yr ail o Bedair Cainc y Mabinogi, 'Branwen ferch Llŷr'.

Pedair Cainc y Mabinogi[golygu | golygu cod]

Branwen gyda'r drudwy yn llys Matholwch

Yn yr Ail Gainc, portreadir Matholwch fel brenin Iwerddon sy'n glanio yn Harlech gyda thair llong ar ddeg i geisio llaw Branwen, chwaer Bendigeidfran gyda'r bwriad o ffurfio cynghrair rhwng Iwerddon ac "Ynys y Cedyrn". Mae Bendigeidfran yn cydsynio ond mae gweithred ysgeler Efnysien yn difetha meirch Matholwch ac felly'n ei sarhau a dwyn gwarth ar Fendigeidfran yn ei ddigio ac mae'n hwylio yn ôl i Iwerddon. Er mwyn cymodi â Matholwch mae Bendigeidfran yn anfon dau anrheg arbennig iddo, sef y Pair Dadeni a meirch newydd.

Mae Matholwch yn priodi Branwen wedyn ac yn byw gyda hi yn ddedwydd yn ei lys yn Iwerddon. Genir mab iddo gan Branwen a enwir Gwern ond mae pobl Matholwch yn ddig wrtho am na ddialodd y sarhad a gafodd yn llys Bendigeidfran. Mae'n rhaid iddo ildio o'r diwedd ac yn wir mae'n digio ei hun ac yn taro Branwen (gweler isod) ac yn ei rhoi i weithio yn y gegin fel morwyn gyffredin, sy'n sarhad arni hi a Bendigeidfran. Mae Branwen yn dofi drudwy ac yn ei anfon i Gymru gyda neges i'w brawd am ei sefyllfa truenus.

Ai tair blynedd heibio. Yna daw Bendigeidfran, sy'n gawr, dros y môr o Gymru i Iwerddon gyda'i ryfelwyr i ddial sarhad Branwen. Mae Matholwch yn ceisio cymodi ac yn cynnig ymddeol a gosod Gwern, nai Bendigeidfran, yn ei le. Gwrthod mae Bendigeidfran ond mae Branwen yn ei berswadio er mwyn cael heddwch. Ond unwaith yn rhagor mai Efnisien yn difetha popeth trwy ladd Gwern a cheir ymladdfa mawr rhwng y Gwyddelod a'r Cymry. Dim ond saith o ryfelwyr sy'n dianc, gyda Branwen a phen Bendigeidfran, yn ôl i Gymru. Ni cheir sôn am dynged Matholwch.

Ffynonellau eraill[golygu | golygu cod]

Mae un o Drioedd Ynys Prydain yn cyfeirio at Fatholwch fel 'Matholwch Wyddel' ac yn disgrifio y dyrnod (palfod) a roes i Franwen fel un o 'Dair Gwyth ("niweidiol") Balfod Ynys Prydain'.

Ym Muchedd Collen (hanes Collen Sant) cyfeirir at Fatholwch fel 'Arglwydd Iwerddon' ac 'Arglwydd Cŵl (neu 'Rhwngcwc') yn Iwerddon'; mae'n daid i Gollen trwy ei ferch gordderch (ond ceir fersiwn arall o fuchedd Collen sy'n rhoi traddodiad gwahanol). Mae testun o ddiwedd yr Oesoedd Canol yn dweud fod Matholwch Wyddel yn un o'r penceirdd a roes ei gyngor wrth lunio'r Pedwar Mesur ar Hugain. Ceir sawl cyfeiriad yng ngwaith Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr yn ogystal.

Yr enw[golygu | golygu cod]

'Mallolwch' yw'r ffurf a geir yn y dryll cynnar o destun yr Ail Gainc sydd yn llawysgrif Peniarth 6. Ceir yr un ffurf mewn cerdd gan Cynddelw Brydydd Mawr yn ogystal. Ymddengys erbyn hyn mai Mallolwch oedd y ffurf gynharaf ar yr enw.

Mae rhai ysgolheigion, e.e. Proinsias Mac Cana, wedi ceisio uniaethu Matholwch â'r brenin Gwyddelig Milscothach a enwir yn y chwedl Togail Bruidne Da Derga, sy'n cynnwys pennod sy'n debyg iawn i ran o'r Ail Gainc.

Ffynonellau a darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydain (Caerdydd, 1961; argraffiad newydd 1991)
  • Proinsias Mac Cana, Branwen (Caerdydd, 1958)
  • Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad ers hynny)