Materoliaeth ddiwylliannol

Oddi ar Wicipedia
Materoliaeth ddiwylliannol
Enghraifft o'r canlynolcarfan meddwl Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1980s Edit this on Wikidata
SylfaenyddRaymond Williams Edit this on Wikidata

Dull o drin damcaniaeth lenyddol ac astudiaethau diwylliannol yw materoliaeth ddiwylliannol sydd yn ystyried sut mae grymoedd economaidd a moddion cynhyrchu yn effeithio ar gynnyrch diwylliannol, er enghraifft gweithiau llenyddol. Datblygodd y mudiad hwn yn y 1980au ymhlith damcaniaethwyr llenyddol Gwledydd Prydain a oedd yn canolbwyntio ar seiliau materolaidd ffenomenau diwylliannol; tynna yn gryf ar waith y beirniad Marcsaidd Raymond Williams, a fathodd y term materoliaeth ddiwylliannol. Maent yn archwilio tystiolaeth destunol yn ogystal â phob math o dystiolaeth gyd-destunol mewn ymdrech i esbonio'r testun dan sylw fel gwrthrych faterol, un a gynhyrchwyd mewn amser penodol, a fel y'i brofir neu dreulir yn y presennol.[1]

Cychwynnodd materoliaeth ddiwylliannol drwy ymdrin â llên Lloegr yn yr 16g a'r 17g, yn enwedig gweithiau William Shakespeare.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Julian Wolfreys, Ruth Robbins, a Kenneth Womack, Key Concepts in Literary Theory, 2il argraffiad (Caeredin: Edinburgh University Press, 2006), tt. 26–7.