Marrakech

Oddi ar Wicipedia
Marrakech
Mathdinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth966,987 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1065 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethFatima Ezzahra El Mansouri Edit this on Wikidata
Cylchfa amserWestern European Time, UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolImperial cities of Morocco Edit this on Wikidata
SirMarrakesh Prefecture Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Arwynebedd230 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr468 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.62947°N 7.98108°W Edit this on Wikidata
Cod post40000 Edit this on Wikidata
MA-MAR Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethFatima Ezzahra El Mansouri Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganAbu Bakr ibn Umar Edit this on Wikidata
Golygfa dros Marrakech
Y Djemaa el Fna enwog gyda'r nos

Dinas ym Moroco yw Marrakech neu Marrakesh (Amazigh: Murakush, Arabeg: مراكش Murrākush). Mae'n cael ei hadnabod fel y "Ddinas Goch" ac mae'n un o bedair dinas ymherodrol Moroco, gyda Rabat, Meknès a Fes. Mae ganddi boblogaeth o 1,070,838 (2004), ac mae'n brifddinas talaith Marrakech-Tensift-El Haouz, ger troedfryniau Mynyddoedd yr Atlas yn ne canolbarth Moroco.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Fel nifer o ddinasoedd yng Ngogledd Affrica a'r Dwyrain Canol, mae Marrakech yn cynnwys hen ddinas gaerog (y medina) a dinas fodern gerllaw (sef y Gueliz neu ville nouvelle). Fe'i gwasanaethir gan Faes Awyr Rhyngwladol Ménara (RAK) a rheilffordd sy'n ei chysylltu â Casablanca a'r gogledd. Marrakech yw'r dryddedd ddinas ym Moroco o ran poblogaeth ar ôl Casablanca a Rabat.

Mae Marrakech yn ddinas hanesyddol a ystyrir yn llawer mwy "Affricanaidd" na'r dinasoedd mawr eraill ac a nodweddir gan ei diwylliant Berber. Cafodd ei sefydlu yn 1062 gan y swltan Almoravid Yusuf ibn Tashfin. Tyfodd i fod yn brifddinas economaidd a diwylliannol de Moroco ac am gyfnod yn yr Oesoedd Canol bu'n brifddinas y wlad gyfan hefyd.

Ceir y souq (marchnad awyr agored) mwyaf yn y wlad yma ac mae'r ddinas yn enwog hefyd am y Djemaa el Fna, sgwâr mawr agored sy'n fwrlwm o acrobatiaid, diddanwyr, chwedleuwyr a cherddorion o fore tan nos pryd mae'n troi'n fath o fwyty fawr agored gyda nifer o stondinau bwyd.

Mae medina Marrakech yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO.

Ceir sawl parc a gardd yn y ddinas, yn cynnwys Gardd Majorelle a Gerddi Menara.

Llywodraeth leol[golygu | golygu cod]

Marrakech yw prifddinas a chanolfan weinyddol talaith Marrakech-Tensift-El Haouz. Rheolir Marrakech gan Gyngor Dinas o 80 o gynrychiolwyr etholedig. Yn haf 2009, enillodd dinas Marrakech le yn hanes merched Moroco pan etholodd cyfarfod llawn o'r cyngor Mme Fatima Zohra El Mansouri yn faer: dyma'r tro cyntaf i ferch ddod yn faer yn hanes Moroco gyfan.[1]

Panorama o'r Djemma el Fna
Panorama o'r Djemma el Fna

Enwogion[golygu | golygu cod]

Gefeillddinasoedd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Tudalen y Maer newydd ar wefan y ddinas". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-04. Cyrchwyd 2009-07-22.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]