Mark Tami

Oddi ar Wicipedia
Mark Tami
Aelod Seneddol
dros Alun a Glannau Dyfrdwy
Yn ei swydd
Dechrau
7 Mehefin 2001
Rhagflaenydd Barry Jones
Mwyafrif 5,235 (11.7%)
Manylion personol
Ganwyd Mark Richard Tami
(1962-10-03) 3 Hydref 1962 (61 oed)
Enfield, Middlesex, England, UK
Plaid wleidyddol Llafur
Gŵr neu wraig Sally Daniels Tami
Plant 2
Alma mater Prifysgol Abertawe
Gwefan Gwefan swyddogol

Gwleidydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Mark Richard Tami (ganed 3 Hydref, 1962). Mae'n Aelod Seneddol Llafur Alun a Glannau Dyfrdwy yn senedd San Steffan, a etholwyd am y tro cyntaf yn 2001. Bu'n swyddog i'r undeb Amicus (AEEU). Cafodd ei ail ethol yn 2005, 2010 a 2015.

Gyda'i gyd-aelodau seneddol o Gymry Ian Lucas a Wayne David, safodd i lawr fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i Dawn Primarolo ar 6 Medi 2006, am fod Tony Blair yn gwrthod rhoi dyddiad ei ymddeolaeth fel prif weinidog.

Ar fwy nag un achlysur yn y gorffennol, roedd Mark Tami yn feirniadol iawn o Richard Brunstrom, cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru.

Dolen Allanol[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Barry Jones
Aelod Seneddol dros Alun a Glannau Dyfrdwy
2001 – presennol
Olynydd:
deiliad


Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.