Marin Mersenne

Oddi ar Wicipedia
Marin Mersenne
Marin Mersenne
Ganwyd8 Medi 1588 Edit this on Wikidata
Oizé Edit this on Wikidata
Bu farw1 Medi 1648 Edit this on Wikidata
o lung abscess Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, diwinydd, mathemategydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, ffisegydd, seryddwr Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadRené Descartes Edit this on Wikidata

Diwinydd, athronydd naturiol, a mathemategydd Ffrengig oedd Marin Mersenne (8 Medi 15881 Medi 1648).

Ganed ger Oizé, Maine, yng ngogledd-orllewin Teyrnas Ffrainc. Wedi iddo dderbyn addysg yr Iesuwyr yng ngholeg La Flèche, aeth i Baris tua 1609 i astudio diwinyddiaeth yn y Sorbonne a'r Collège de France. Ymunodd ag Urdd Gatholig y Minimiaid ym 1611, gan fwrw ei nofyddiaeth yn Nigeon (bellach Chaillot, Paris) a Meaux. Darlithiodd ar bynciau athroniaeth a diwinyddiaeth yn Nevers o 1614 i 1618. Ymsefydlodd ym Mharis ym 1619, a theithiodd yn fynych i'r Iseldiroedd, yr Eidal, a rhannau eraill Ffrainc. Bu farw ym Mharis yn 59 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Marin Mersenne. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Gorffennaf 2021.