Manuel González Flores

Oddi ar Wicipedia
Manuel González Flores
Portread o Manuel González.
Ganwyd18 Mehefin 1833 Edit this on Wikidata
Matamoros Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ebrill 1893 Edit this on Wikidata
Chapingo, State of Mexico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Mecsico, Llyweodraethwr Michoacán, Governor of Jalisco Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLiberal Party Edit this on Wikidata
PriodLaura Mantecón Arteaga Edit this on Wikidata

Milwr a gwleidydd Mecsicanaidd oedd Manuel del Refugio González Flores (18 Mehefin 18338 Mai 1893) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1880 i 1884.

Ganed ar fferm ger Matamoros, yn nhalaith Tamaulipas, gogledd Mecsico. Cychwynnodd ar ei yrfa filwrol ym 1847, a chafodd ei ddyrchafu'n gadfridog yn ystod Rhyfel La Reforma (1857–60).

Wedi i'w gyfaill Porfirio Díaz ddymchwel yr Arlywydd Sebastián Lerdo de Tejada a dal yr arlywyddiaeth o 1877 i 1880, penodwyd González yn arlywydd gan Díaz yn y cyfnod o 1880 i 1884. Un o brif lwyddiannau'r Arlywydd González oedd i amddiffyn ffiniau Mecsico mewn dadl ryngwladol â Gwatemala. Bu hefyd yn dosbarthu hawliau cloddio a chodi rheilffyrdd, gan gyfrannu at ddatblygiad y wlad. Er gwaethaf, nodweddai ei lywodraeth gan lygredigaeth a gwastraff, er enghraifft y ddeddf arolwg tir a roddai ffafriaeth i'r tirfeddianwyr a hapfasnachwyr mwyaf. Cynyddodd chwyddiant yn sgil ei ymdrech i adfer yr arian cyfred gyda darnau nicel newydd, a throdd Díaz yn erbyn ei lywodraeth. Ailetholwyd Díaz yn arlywydd ym 1884 ac ildiodd González ei swydd, a'i wlad ar fin methdaliad.[1]

Treuliodd González ei flynyddoedd olaf yn gwasanaethu yn Llywodraethwr Guanajuato, a bu farw yn Hacienda de Chapingo, ger dinas Guanajuato, yn 59 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Manuel González. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Chwefror 2021.