Manon Steffan Ros

Oddi ar Wicipedia
Manon Steffan Ros
Ganwyd19 Ionawr 1983 Edit this on Wikidata
Llanddeiniol, Ceredigion Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, dramodydd, cerddor Edit this on Wikidata
TadSteve Eaves Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures a dramodydd Cymreig yw Manon Steffan Ros (ganed 19 Ionawr 1983).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Ros yn ferch ieuengaf y cerddor Steve Eaves,[2] a magwyd ym mhentref Rhiwlas ger Bangor.[3] Mynychodd Ysgol Rhiwlas ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda.[1]

Enillodd y Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn olynol, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion yn 2010, Fel Aderyn, a llwyddodd i gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2010 yng nghategori Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd gyda'i nofel Trwy’r Tonnau,[4] yn 2012 gyda Prism[5] ac yn 2017 enillwyd yn y categori uwchradd gyda Pluen[6] ac yn 2019 gyda Fi a Joe Allen.[7]

Mae'n byw yn Nhywyn gyda'i meibion.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gwobrau ac anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Adnabod Awdur: Manon Steffan Ros (PDF). Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
  2.  BBC Music > Artists > Steve Eaves. BBC. Adalwyd ar 14 Mehefin 2011.
  3.  Nofelwyr Ifanc yn cipio Gwobrau Tir na n-Og 2010. Cyngor Llyfrau Cymru (3 Mehefin 2010). Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
  4.  Rhestr Awduron Cymru: ROS, MANON STEFFAN. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 14 Mehefin 2011.
  5.  Gwobrau Tir na n-Og. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
  6. "Gwefan golwg, erthygl ar gwobr tir na n-Og 2017. Adalw ar 25/02/18".
  7. "Adnabod Awdur: Manon Steffan Ros". Cyngor Llyfrau Cymru. 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-23.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]