Malawi

Oddi ar Wicipedia
Malawi
ArwyddairUnity and Freedom Edit this on Wikidata
Mathgweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlLlyn Malawi Edit this on Wikidata
Lb-Malawi.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Malawi.wav, LL-Q22809485 (apc)-Hassan Hassoon-مالاوي.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasLilongwe Edit this on Wikidata
Poblogaeth18,622,104 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 6 Gorffennaf 1964 Edit this on Wikidata
AnthemMulungu dalitsa Malaŵi Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethLazarus Chakwera Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, Africa/Blantyre Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Chichewa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Affrica, De Affrica, Southeast Africa Edit this on Wikidata
GwladBaner Malawi Malawi
Arwynebedd118,484 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSambia, Tansanïa, Mosambic Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau13°S 34°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCabinet of Malawi Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholNational Assembly Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Malawi Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethLazarus Chakwera Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Malawi Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethLazarus Chakwera Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$12,602 million, $13,165 million Edit this on Wikidata
ArianMalawian kwacha Edit this on Wikidata
Canran y diwaith8 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant5.129 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.512 Edit this on Wikidata

Gwlad yn ne Affrica yw Gweriniaeth Malawi, neu Malawi (yn Saesneg: Republic of Malawi, yn Chichewa: Dziko la Malaŵi). Y gwledydd cyfagos yw Tansanïa i'r gogledd, Sambia i'r gorllewin, a Mosambic i’r de a'r dwyrain. Mae'n annibynnol ers 1964. Prifddinas Malawi yw Lilongwe.

Daearyddiaeth Malawi[golygu | golygu cod]

Gwlad hir a chul, heb arfordir, yw Malawi. Mae rhan ogleddol y wlad ar ochr orllewinol Llyn Malawi. Yn y gogledd, saif rhwng Sambia yn y gorllewin a Tansanïa a Mosambic yn y dwyrain, yr ochr draw i Llyn Malawi. Yn y de, mae'r wlad yn ymestyn i mewn i Mosambic ar hyd dyffryn afon Shire. Nid oes gan Malawi arfordir, ond mae rheilffordd yn ei chysylltu a phorthladdoedd Nacala a Beira yn Mosambic.

Rhed y Dyffryn Hollt Mawr ar hyd y wlad o'r gogledd i'r de, a cheir nifer o lynnoedd yn y dyffryn. Llyn Malawi yw'r trydydd llyn yn Affrica o ran arwynebedd. Llifa afon Shire o ben deheuol y llyn i ymuno ag afon Zambezi yn Mosambic. Bob ochr i'r Dyffryn Hollt, mae'r wlad yn un fynyddig. Yn y gogledd, mae Ucheldir Nyika yn cyrraedd 2,600 medr uwch lefel y môr, ac i'r de o Lyn Malawi mae Ucheldiroedd Shire, sy'n cyrraedd uchder o 2,130 m ar Ucheldir Zomba a 3,002 m ym Mynyddoedd Mulanje.

Mae dwysder poblogaeth Malawi yn uchel i wlad yn Affrica. Y ddinas fwyaf, yn ôl pob tebyg, yw Blantyre, gyda phoblogaeth o tua 500,000, tra mae poblogaeth y brifddinas, Lilongwe, dros 400,000. Mae'r tywydd yn drofannol, gyda tymor glawog rhwng Tachwedd ac Ebrill, ac ychydig iawn o law rhwng Mai a Hydref. Ar y tir isel ceir tymheredd o tua 27° to 29 °C rhwng Medi ac Ebrill, a tua 23° rhwng Mai a Medi.

Hanes Malawi[golygu | golygu cod]

Cafwyd hyd i olion hominid yn dyddio'n ôl tua miliwn o flynyddoedd yn yr ardal yma, ac roedd pobl gynnar yn byw ar lannau Llyn Malawi 50,000 i 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Gelwir y trigolion cynnar yr Akufula neu'r Batwa. Hwy oedd yn gyfrifol am yr arlunwaith craig i'r de o Lilongwe, yn Chencherere a Mphunzi.

Yn ystod y 16g, sefydlwyd gwladwriaeth Maravi gan gangen o'r bobloedd Bantu o gwmpas Llyn Malawi. Dywedir fod yr enw "Malawi" yn dod o "Maravi". Tyfodd tiriogaeth y wladwriaeth i ymestyn o ardaloedd Tumbuka a Tonga yn y gogledd i ran isaf afon Shire yn y de, ac i'r gorllewin cyn belled a dyffrynoedd Luangwa a Zambezi. Roedd rheolwyr Maravi yn perthyn i dylwyth y Phiri, ac yn dwyn y teitl Kalonga. Manthimba oedd eu prifddinas. Prif iaith y Maravi oedd Chichewa.

Yn y 19g, symudodd nifer o bobloedd eraill i'r ardal. Daeth pobl y Ngoni, neu'r Angoni, o ardal Natal, yn yr hyn sy'n awr yn Dde Affrica, yn ffoi oddi wrth Ymerodraeth y Zulu, oedd yn ymestyn ei grym dan Shaka Zulu. Grŵp arall o fewnfudwyr oedd yr Yao neu Ayao, o'r hyn sy'n awr yn ogledd Mosambic. Cyn hir roedd y Maravi yn dioddef oherwydd ymosodiadau eu cymdogion, y Ngoni a'r Yao, ac yn aml yn cael eu gwerthu fel caethweision. Roedd yr Yao wedi troi at Islam, ac wedi datblygu partneriaeth a marsiandïwyr caethion Arabaidd.

Roedd y Portiwgeaid wedi ymsefydlu ar yr arfordir ers yr 16g, ond ymddengys mai'r Ewropead cyntaf i gyrraedd Llyn Malawi oedd David Livingstone yn 1859. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, sefydlodd cenhadon Albanaidd yn y wlad. Yn 1891, daeth y diriogaeth yn than o'r Ymerodraeth Brydeinig, ac yn 1907 rhoddwyd yr enw Nyasaland arni.

Yn ystod y 1950au, bu nifer o ymgyrchoedd i geisio ennill annibyniaeth. Un o'r arweinwyr oedd Dr Hastings Kamuzu Banda, a ddaeth yn Brif Weinidog pan ddaeth Malawi yn wlad annibynnol yn 1964, ac yn Arlywydd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Dim ond un blaid a ganiateid, ac yn 1970, cyhoeddwyd Banda yn Arlywydd am Oes.

Yn 1993, pleidleisiodd pobl Malawi mewn refferendwm dros gael system ddemocrataidd, sydd wedi parhau ers hynny. Bingu wa Mutharika oedd yr arlywydd o 2004 tan ei farwolaeth yn Ebrill 2012.

Gwleidyddiaeth Malawi[golygu | golygu cod]

Iaith a diwylliant[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â Saesneg mae Chichewa yn iaith swyddogol sy'n cael ei siarad gan 57.2% o'r boblogaeth. Yr ieithoedd brodorol eraill yw Chinyanja (12.8%), Chiyao (10.1%), Chitumbuka (9.5%), Chisena (2.7%), Chilomwe (2.4%), a Chitonga (1.7%). Ceir sawl iaith arall (3.6%). (Cyfrifiad 1998, CIA World Factbook).

Economi Malawi[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.