Maestref

Oddi ar Wicipedia
Tai llain a culs-de-sac, nodweddion o gynllunio maestrefol.
Datblygiad maestrefol yn San Jose, Califfornia.

Ardal breswyl yw maestref fel rheol, ond cânt eu diffinio yn wahanol ar draws y byd. Gall fod yn ardal breswyl mewn dinas fawr, neu'n gymuned breswyl o fewn pellter cymudo i ddinas. Mae gan rai maestrefi rywfaint o ymreolaeth lywodraethol, ac mae gan y rhanfwyaf ddwysedd is o boblogaeth o'i gymharu ag ardaloedd dinas fewnol. Datblygodd maestrefi cyfoes yn ystod yr 20g o ganlyniad i welliannau ym maes trafnidiaeth rheilffordd a ffordd a chynydd mewn cymudo. Mae maestrefi yn tueddu i amlhau o gwmpas dinasoedd sydd wedi eu amglchynnu â thir gwastad.[1] Cyfeirir at unrhyw ardal faestrefol fel maestref, a chyfeirir atynt gyda'i gilydd fel y maestrefi.

Gwrthbwynt i faestrefi[golygu | golygu cod]

Fel gwrthbwynt i ymestyn allan i adeiladu tai, datblygwyd meddylfryd newydd mewn datblygu trefol sef tuag at dwyseddu trefol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.