Maes-glas

Oddi ar Wicipedia
Maes-glas
Pwll ym Mharc Treftadaeth Maes-glas
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTreffynnon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.289°N 3.21°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ185755 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHannah Blythyn (Llafur)
AS/auRob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Pentref yng nghymuned Treffynnon, Sir y Fflint, Cymru, yw Maes-glas[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Saesneg: Greenfield). Saif tua milltir i'r gogledd o dref Treffynnon, ar yr arfordir rhwng Mostyn i'r gorllewin a'r Fflint i'r dwyrain. Rhed priffordd yr A548 trwy'r pentref. Mae lôn fechan yn mynd trwy dwnel dan Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru i lan aber Afon Dyfrdwy.

Ar gyrion y pentref ceir safle Abaty Dinas Basing. Saif ym Mharc Treftadaeth Maes-glas ("Greenfield Valley"), i'r gorllewin o'r pentref, sy'n atyniad twristaidd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]

Enwogion[golygu | golygu cod]

  • Henri Perri (1560/1–1617), un o ysgolheigion Cymreig y Dadeni Dysg, awdur Eglvryn Phraethineb.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato