Madame Bovary

Oddi ar Wicipedia
Madame Bovary
Tudalen teitl y rhifyn Ffrangeg gwreiddiol, 1857
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurGustave Flaubert
CyhoeddwrRevue de Paris (cyfres) & Michel Lévy Frères (ar ffurf llyfr, 2 Gyfrol)
GwladFfrainc
Rhan oIndex Librorum Prohibitorum Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg
Dyddiad cyhoeddi1857 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1856 Edit this on Wikidata
GenreNofel realydd, Llenyddiaeth erotig
CymeriadauEmma Bovary, Q64895263 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiFfrainc Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithYonville Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nofel enwocaf Gustave Flaubert ydy Madame Bovary; cyhoeddwyd pennod gyntaf y stori ar 1 Hydref 1856 yn La Revue de Paris. Cafwyd sgandal fawr pan gyhoeddwyd y nofel ac achos llys yn erbyn Flaubert a'r cyhoeddwyr am "lygru moesoldeb y cyhoedd".[1]

Cynllun[golygu | golygu cod]

Lleolir y nofel yn nhref ddychmygol 'Yonville' ger Rouen, Normandi. Mae arwres y nofel, Emma Roualt, yn cael ei magu mewn cwfaint ac mae'n ei adael gyda'i phen yn llawn o grefyddoldeb sentimental a breuddwydion rhamantaidd am fywyd moethus a chariadon Byronaidd. Mae hi'n priodi Charles Bovary, meddyg gwledig mewn tref fach ger Rouen, ond yn syrffedu ar fywyd mewn lle mor ddinod a chwmni gŵr addolgar ond diddychymyg, sef y gwrthwyneb i'r syniadau rhamantaidd am briodas a chariad a gafodd yn y nofelau poblogaidd a ddarllenai yn y cwfaint. Mae'n syrthio mewn cariad a sgwier lleol golygus ond cyn hir mae ef yn diflasu ar ei chwmni ac yn ei gadael. Caiff garwriaeth arall gyda chlerc i gyfreithwyr ond ni all ef ddioddef ei syniadau rhamantaidd pen yn y gwynt. Yn y cyfamser mae hi wedi disgyn mewn dyled sylweddol trwy wario'n afradlon er mwyn plesio ei chariad ac mae'r un â'r dyled iddo yn bygwth datgelu popeth i'w gŵr os na chaiff ei dalu. Mewn braw a digalondid, mae hi'n lladd ei hun trwy gymryd arsenig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Syr Paul Harvey (gol.), The Oxford Campanion to French Literature (1969).
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.