MTV

Oddi ar Wicipedia
MTV
Enghraifft o'r canlynolcable channel, sianel deledu thematig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Awst 1981 Edit this on Wikidata
PerchennogParamount Global Edit this on Wikidata
Isgwmni/auMTV Films, MTV Entertainment Studios Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadParamount Media Networks Edit this on Wikidata
PencadlysDinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://mtv.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae MTV (Music Television) yn rwydwaith deledu gwifren a leolir yn Ninas Efrog Newydd. Fe'i lawnsiwyd ar 1 Awst 1981 a'r nod gwreiddiol oedd i chwarae fideos cerddorol a fyddai'n cael eu cyflwyno gan gyflwynwyr a elwir yn VJs. Erbyn heddiw, mae MTV yn dal i chwarae detholiad o fideos cerddorol, ond yn bennaf mae'r sianel yn darlledu amrywiaeth o raglenni teledu realiti a diwylliant pop sydd wedi'u hanelu at arddegwyr ac oedolion ifanc.

Ers dechrau'r sianel, mae MTV wedi chwyldroi y diwydiant cerddorol. Daeth sloganau megis "I want my MTV" yn wybyddus ym meddyliau'r cyhoedd, a phoblogeiddiwyd y syniad o'r VJs. Cyflwynwyd y syniad o fan penodol i chwarae fideos cerddorol a darparodd fan canolog i artistiaid a chefnogwyr i ddysgu am ddigwyddiadau cerddorol, newyddion a hysbysebu. Cyfeiriwyd at MTV droeon gan gerddorion, sianeli a rhaglenni teledu eraill, ffilmiau a llyfrau pan yn sôn am ddiwylliant poblogaidd.

Arweiniodd MTV at nifer o sianeli tebyg yn yr Unol Daleithiau ac yn rhyngwladol. Mae dylanwad moesol MTV, gan gynnwys materion megis sensoriaeth a gweithredu cymdeithasol, wedi bod yn bwnc llosg am nifer o flynyddoedd. Mae dewis MTV i ganolbwyntio ar raglenni heb gerddoriaeth wedi cael ei drafod llawer hefyd ers y 1990au, gan ddangos dylanwad y sianel ar ddiwylliant fodern.