Lugh

Oddi ar Wicipedia

Roedd Lugh (yn gynharach Lug, Gwyddeleg modern: ) yn gymeriad ym mytholeg Iwerddon ac yn ffurf ar y duw Celtaidd a elwid yn Lugus yng Ngâl a Lleu yng Nghymru. Gelwir ef wrth nifer o enwau megis Lámhfhada ("law hir") oherwydd ei allu gydag arfau megis gwaywffon (cymharer "Llaw Gyffes" am Lleu) a Lug mac Ethnenn. Enw arall arno yw Samíldanach ("deheuig ymhob crefft"). Fe'i cysylltir â gŵyl Lugnasad (Calan Awst).

Ei dad oedd Cian ("Pellter") fab Dian Cécht o'r Tuatha Dé Danann a'i fam oedd Ethniu (Eithne/Enya), merch y cawr Balor, un o'r Fomoriaid; gelwir ef yn Lug(h) mac Ethnenn weithiau oherwydd hynny. Yn chwedlau Cylch Wlster mae'n dad i'r arwr Cú Chulainn.

Yn ôl un chwedl, roedd proffwydoliaeth y byddai Balor yn cael ei ladd gan ei ŵyr, felly cadwodd ei ferch, Ethniu, yn garcharor mewn tŵr crisial. Gallodd Cian fynd i mewn i'r tŵr gyda chymorth y dderwyddes Birog, a ganwyd tri phlentyn i Ethniu. Taflodd Balor y tri i'r môr, lle boddodd dau neu droi yn forloi, ond achubwyd Lugh gan Birog, a'i rhoes i Manannán mac Lir yn fab maeth. Mae tebygrwydd yma i'r hanes am eni Lleu Llaw Gyffes a'i efaill Dylan yn chwedl Math fab Mathonwy.

Mae gan Lugh ran bwysig yn hanes y Tuatha Dé Danann. Ym mrwydr Mag Tuired (Cath Maige Tuired) Lugh sy'n arwain y Tuatha i fuddugoliaeth dros y Fomoriaid.

Testunau Gwyddeleg sy'n cyfeirio at Lugh[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]