London Academy of Music and Dramatic Art

Oddi ar Wicipedia
Academi Cerdd a'r Celfyddydau Dramatig, Llundain
Mathysgol ddrama Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolLlundain
Sefydlwyd
  • 1861 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.49056°N 0.21444°W Edit this on Wikidata
Map
Prif adeilad LAMDA ar Heol Talgarth

Ysgol ddrama flaenllaw yng ngorllewin Llundain ydy London Academy of Music and Dramatic Art (LAMDA). Llywydd LAMDA yw Timothy West a'r pennaeth newydd yw Joanna Read[1], a olynodd Peter James. Dathlodd yr ysgol ddrama ei phenblwydd yn 150 oed yn 2011, sy'n golygu mai LAMDA yw'r ysgol ddrama hynaf yn y Deyrnas Unedig. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dros 98% o raddedigion rheoli llwyfan a theatr technegol wedi cael swydd yn eu maes o fewn wythnosau o raddio. Mae'r ysgol wedi'i chofrestru fel cwmni o dan yr enw Lamda Ltd[2] ac fel elusen o dan ei enw masnachol London Academy of Music and Dramatic Art.[3] Mae yna gwmni cysylltiedig yn yr Unol Daleithiau, LAMDA in America, Inc., a arferai gael ei alw'n The American Friends of LAMDA.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-05-14. Cyrchwyd 2011-02-15.
  2. "Lamda Ltd, do-business.net". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-07. Cyrchwyd 2011-02-15.
  3. "London Academy of Music and Dramatic Art, charitiesdirect.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-22. Cyrchwyd 2011-02-15.
  4. "LAMDA in America, Inc., LAMDA website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-24. Cyrchwyd 2011-02-15.