Llyn Yamdrok

Oddi ar Wicipedia
Llyn Yamdrok
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirShannan, Rhanbarth Ymreolaethol Tibet Edit this on Wikidata
Gwlad[[Delwedd:Nodyn:Alias baner gwlad Tibet|22x20px|Baner Nodyn:Alias gwlad Tibet]] [[Nodyn:Alias gwlad Tibet]]
Arwynebedd640 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr4,440 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.93°N 90.68°E, 28.97811°N 90.7457°E Edit this on Wikidata
Dalgylch9,940 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd72 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Llyn yn rhaglawiaeth Lhasa, Tibet, a ystyrir yn un o lynnoedd sanctaidd y wlad honno, yw Llyn Yamdrok (Tibeteg: Yamdrok Yumtso, ཡར་འབྲོག་གཡུ་མཚོ་ Yamdrok Yumtso neu Yamdrok Tso; Wylie: Yar-'brog G.yu-mtsho). Ei hyd yw tua 72 km (45 milltir). Amgylchynnir y llyn gan sawl copa eiraog ac mae'n cael ei fwydo gan nifer o ffrydiau sy'n disgyn o lethrau'r mynyddoedd hynny. Mae'n gorwedd tua 90 km i'r dwyrain o dref Gyantse a thua 100 km i'r de-ddwyrain o Lhasa. Yn ôl traddodiad mae'n gartref i dduwies leol.

Fel Lhamo La-tso, Llyn Namtso a Llyn Manasarovar, mae Yamdrok yn un o lynnoedd sanctaidd Bwdhaeth Tibet. Caiff ei barchu fel talisman sy'n un o'r lleoedd sy'n cynrychioli ysbryd cenedl y Tibetiaid. Dyma'r llyn mwyaf yn Ne Tibet. Ceir tua dwsin o ynysoedd arno, gyda un ohonynt yn gartref i Fynachlog Samding, yr unig fynachlog yn Nhibet gydag abades yn bennaeth ar gymuned o fynachod.

Llyn Yamdrok