Llyn Padarn

Oddi ar Wicipedia
Llyn Padarn
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1289°N 4.1331°W Edit this on Wikidata
Hyd3.2 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion
Llyn Padarn

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Padarn. Saif yn Eryri, gyda llyn arall, Llyn Peris fymryn i'r de-ddwyrain. Mae'n 280 acer o arwynebedd, tua dwy filltir o hyd a 94 troedfedd yn y man dyfnaf.

Mae'r llyn yn 29 medr dwfn. Mae hefyd yn 3.2 km hir i un ochr ir llach. Mae ganddo pontwn sydd yn 10 medr hir.

Saif tref Llanberis ar y lan ddeheuol a phentref Brynrefail lle mae Afon Rhythallt yn llifo allan o'r llyn. Wedi iddi lifo dan Bont Rhythallt yn Llanrug, mae'r afon yma yn newid ei henw i Afon Seiont ac yn cyrraedd y môr yng Nghaernarfon.

Daw'r enw o sant Padarn, a gelwir y tir rhwng y llyn yma a Llyn Peris yn Nolbadarn. Yma mae Castell Dolbadarn ar godiad tir rhwng y llynnoedd. Ar lan gogleddol y llyn mae Parc Gwledig Padarn, ac mae Rheilffordd Padarn yn arwain ar hyd y lan ogleddol, yn cychwyn o'r Parc. Yn wreiddiol defnyddid y rheilffordd yma i gario llechi o Chwarel Dinorwig i'r Felinheli. Mae Amgueddfa Llechi Cymru yma hefyd, yn hen weithdai Chwarel Dinorwig yn y Gilfach Ddu. Ar ochr y llyn mae yna castell o'r enw Dolbadarn sydd yna ar 13eg ganrif.

Yn y 18g roedd diwydiant copr yn Nant Peris, a byddai'r copr yn cael eu gario mewn cychod ar hyd Llyn Padarn. Y mwyaf adnabyddus o'r bobl oedd wrth y gwaith yma oedd Marged uch Ifan, a ddaeth yn rhan o draddodiad gwerin. O blith pysgod y llyn, y mwyaf nodedig yw'r Torgoch.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato