Llyn Fawr

Oddi ar Wicipedia
Llyn Fawr
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirY Rhigos Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7197°N 3.5683°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map

Llyn yn Rhondda Cynon Taf yn ne Cymru yw Llyn Fawr. Fe'i lleolir i'r de o bentrefi Cefn Rhigos a Rhigos. Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd y darganfyddiadau pwysig o arfau a chelfi o ddiwedd Oes yr Efydd a dechrau Oes yr Haearn a wnaed yno.

Saif y llyn islaw Craig y Llyn, gerllaw tarddle Afon Rhondda Fawr, 368 medr uwch lefel y môr; mae ei arwynebedd yn 9.8 hectar (24 acer). Llyn naturiol ydyw, ond adeiladwyd argae i'w droi yn gronfa ddŵr tua dechrau'r 20g.

Llyn Fawr

Rhwng 1911 a 1913, yn ystod y gwaith o adeiladu'r argae, cafwyd hyd i amrywiaeth o arfau a chelfi; roedd y rhan fwyaf yn dyddio'n ôl i ran olaf Oes yr Efydd ond hefyd yn cynnwys y celfi haearn cynharaf i'w darganfod yng Nghymru, yn fwyaf arbennig: cleddyf haearn yn arddull Hallstatt. Roedd yno hefyd ben gwaywffon a chryman haearn. Roedd y celfi efydd yn cynnwys dau grochan a phennau bwyeill. Credir fod yr eitemau yma wedi eu gosod yn y llyn fel offrwm i'r duwiau, efallai tua 650 CC.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]