Llyfr Numeri

Oddi ar Wicipedia

Llyfr Numeri yw pedwerydd llyfr yr Hen Destament a'r Beibl. Ei awdur traddodiadol yw Moses. Fe'i gelwir yn Llyfr Numeri ("Llyfr y Rhifau") am ei fod yn cyfeirio at ddau gyfrifiad. Ei dalfyriad arferol yw 'Num.'

Mae'r naratif yn ymwneud â thaith yr Hebreaid o Fynydd Sinai i ffiniau Canaan ac yn esbonio pam na chawsent fynd i Dir yr Addewid. Fel canlyniad treuliasant ddeugain mlynedd yn crwydro yn anialwch Sinai. Mae'r llyfr yn cynnwys yn ogystal amryw ddeddfau.