Llyfr Du Caerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Llyfr Du Caerfyrddin
Llyfr Du Caerfyrddin (f.4.r)
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
CrëwrUnknown Edit this on Wikidata
Deunyddmemrwn Edit this on Wikidata
Rhan oLlawysgrifau Peniarth Edit this on Wikidata
IaithCymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Tudalennau70 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 1350 Edit this on Wikidata
Genrebarddoniaeth Edit this on Wikidata
LleoliadLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
PerchennogJohn Price, Jasper Gryffyth, Siôn Tudur, Robert Vaughan Edit this on Wikidata
Prif bwncproffwydo, Trioedd Ynys Prydain Edit this on Wikidata
Yn cynnwysYmddiddan Myrddin a Thaliesin, Englynion y Beddau, Ysgolan, Marwysgafn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Argraffiad ffacsimile o llyfr Du Caerfyrddin

Un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf sydd wedi goroesi yw Llyfr Du Caerfyrddin (llawysgrif Peniarth 1), sy'n cael ei gyfri fel y casgliad hynaf o farddoniaeth Gymraeg.[1] Llawysgrif gymharol fychan yw, a ysgrifennwyd ar femrwn rhywbryd yng nghanol y 13g, efallai ym Mhriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog yn nhref Caerfyrddin. Mae'n cynnwys 39 o gerddi ac un testun rhyddiaith byr, ar 54 tudalen ffolio; sef cyfanswm o 108 tudalen (mae rhai tudalennau yn eisiau). Cedwir y llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, fel rhan o Lawysgrifau Peniarth.

Fe'i lluniwyd dros gyfnod o sawl blwyddyn ac mae'n gofnod o gerddi a sgwennwyd rhwng y 9fed a'r 12g.

Tudalen gyntaf Llyfr Du Caerfyrddin; sgan o'r gwreiddiol gan y Llyfrgell Genedlaethol.
Tudalen gyntaf Llyfr Du Caerfyrddin gyda llinellau agoriadol y gerdd Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (o argaffiad diplomatig J. Gwenogvryn Evans, Pwllheli 1907)

Cefndir[golygu | golygu cod]

Y llawysgrif[golygu | golygu cod]

Cysylltir y Llyfr Du â Phriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog, a drowyd yn dŷ Awstinaidd gan y Normaniaid. Digon tlawd oedd y sefydliad, oedd dan reolaeth Priordy Llanddewi Nant Hodni yng Ngwent tan ddechrau'r 13g. Ategir y darlun o dlodi'r priordy gan y ffaith mai darnau bach o femrwn caled a ddefnydwyd ar gyfer y llawysgrif. Mae'r llaw fras a geir ynddi'n awgrymu mai gŵr oedd yn gyfarwydd ag ysgrifenyddiaeth litwrgaidd a'i hysgrifennodd. Yn wahanol i lawysgrifau Cymreig cynnar eraill fel Llyfr Taliesin nid yw arddull y Llyfr Du yn rheolaidd - mae ffurfiau'r llythrennau'n ansefydlog, er enghraifft - ac mae'n debyg nad ysgrifennwr proffesiynol a'i lluniodd. Fel y noda A.O.H. Jarman, mae'r Llyfr Du yn llawysgrif unigryw sy'n anodd i'w dyddio a rhaid dibynnu ar dystiolaeth fewnol y llawysgrif ei hun i wneud hynny; sefyllfa sydd wedi peri bod cryn amrywiaeth barn amdani. Mae'r ffaith fod orgraff y llythrennau'n newid yn sylweddol ar ôl ffolio 20 yn awgrymu fod y llawysgrif wedi cael ei llunio ar ddau gyfnod gwahanol.

Ei hanes[golygu | golygu cod]

Mae hanes trosglwyddiad y llawysgrif yn ddiddorol. Yn ail chwarter yr 16g roedd ym meddiant Syr John Price (1502-55), awdur Yn y lhyvyr hwnn. Ar sail ei dystiolaeth ef yn unig y cysylltir y Llyfr Du â Chaerfyrddin. Dywed Syr John y cafodd y llyfr gan un o drysorwyr Eglwys Gadeiriol Tyddewi, yng nghyfnod diddymu'r mynachlogydd, a bod y trysorwr yn dweud ei fod yn tarddu o Briordy Caerfyrddin. Rhywbryd ar ôl hynny cafodd ei ffordd o'r De i'r Gogledd, fel nifer o lawysgrifau eraill. Ceir nodyn ynddo yn llaw y bardd Siôn Tudur (m. 1602). Roedd ym meddiant y casglwr Jasper Gryffyth (m. 1614) ar ddechrau'r 17g. Daeth i feddiant y casglwr llawysgrifau a hynafiaethydd Robert Vaughan (?1592-1667) o'r Hengwrt (Meirionnydd). Bu yn ddiogel yn llyfrgell enwog Hengwrt am tua 300 mlynedd. Gwelodd yr hynafiaethydd Edward Lhuyd y llyfr yno yn 1696. Yna etifeddwyd y llyfrgell gan William Watkin Edward Wynne o blas Peniarth yn 1859 ac ar ôl i Syr John Williams ei phrynu cafodd casgliad Peniarth, yn cynnwys y Llyfr Du, ei roi i'r Llyfrgell Genedlaethol newydd yn Aberystwyth.

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Dyma'r testunau a geir yn y Llyfr Du yn nhrefn y llawysgrif:

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd William Forbes Skene (1809-1892) destun y Llyfr Du yn ei olygiad uchelgeisiol ond gwallus Four Ancient Books of Wales.

Ceir y testunau gorau yn:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. GY Gwyddoniadur Cymraeg; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd 2008; tudalen577

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]