Llenyddiaeth Fanaweg

Oddi ar Wicipedia

Llenyddiaeth Fanaweg, sef llenyddiaeth yn yr iaith Fanaweg, yw'r lleiaf o'r llenyddiaethau Celtaidd.

Credir fod yr iaith Fanaweg, sy'n un o'r ieithoedd Celtaidd sy'n tarddu o'r Goideleg (gyda Gwyddeleg a Gaeleg), wedi ei chyflwyno i Ynys Manaw gan ymsefydlwyr Gwyddelig yn y 4g neu'r 5g OC, ond tan ddechrau'r cyfnod modern dim ond enwau lleoedd ac enwau personol sy'n dyst i'r cyfnod cynharaf yn hanes yr iaith. Mae'r testunau cynharaf y gellir eu dyddio yn perthyn i'r 18g. Rhwng cloriau un o'r llawysgrifau hyn ceir copi o hanes mydryddol Ynys Manaw o gyfnod cyflwyno Cristnogaeth i'r ynys ymlaen i ddiwedd yr Oesoedd Canol, testun sydd i'w ddyddio i'r 16g, efallai.

Prin iawn yw'r testunau seciwlar yn y Fanaweg cyn yr 20g, ond cafwyd sawl testun crefyddol. Cyfieithwyd o'r Saesneg y Llyfr Gweddi Gyffredin a'r Beibl yn yr 17g a'r 18fed. Mae'r Beibl Manaweg argraffedig cynharaf yn dyddio o 1771/1775 ac yn gosod safon i orgraff fodern yr iaith Fanaweg. Cyfieithiad ar y cyd ydoedd, gan offeiriaid yr ynys dan olygyddiaeth gyffredinol Philip Moore. Cafwyd argraffiadau eraill yn 1777 a 1819. Ceir testunau canu crefyddol tebyg i garolau (carval) yn y cyfnod hwnnw hefyd, sydd yn deillio o'r cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd efallai. Gwŷr eglwysig oedd yr awduron cyntaf, ond yn y 19g cafodd y carval ei addasu gan y werin ar gyfer caneuon crefyddol poblogaidd.

Cafodd y llyfr argraffedig cyntaf yn yr iaith, Coyrle Sodjeh, ei gyhoeddi yn 1707; roedd yn gyfieithiad o gatecism gan yr Esgob Thomas Wilson. Yn 1796, cyhoeddwyd fersiwn Manaweg talfyredig o Goll Gwynfa John Milton, gan Thomas Christian, ficer Marown rhwng 1780-1799.

Ceir yn ogystal sawl llyfr gramdeg a geiriadur. Cadwyd rhai chwedlau a chaneuon llafar, ond ni chawsant eu cyhoeddi tan yr 20g, e.e. gan William Cashen yn ei gyfrol Manx Folkore (cyhoeddwyd gan Yn Cheshaght Ghailckagh yn 1912).

Ystyrir Edward Faragher, (Neddy Beg Hom Ruy, 1831-1908) o Cregneash fel yr olaf o'r ysgrifenwyr Manaweg brodorol yn yr hen draddodiad. Roedd yn fardd, a ysgrifennai ar bynciau crefyddol yn bennaf. Ond mewn rhai o'i straeon ceir atgofion am ei fywyd fel pysgotwr. Yn 1901 cyhoeddwyd Skeealyn Aesop, detholiad o chwedlau Aesop.

Gydag adfywiad yr iaith Fanaweg yn ail hanner yr 20g, mae llenyddiaeth newydd wedi dechrau cael ei chreu, yn cynnwys Contoyryssyn Ealish ayns Cheer ny Yindyssyn, cyfieithiad Manaweg o Alice in Wonderland, gan Brian Stowell, a gyhoeddwyd yn 1990. Ym Mawrth 2006, cyhoeddwyd y nofel hir gyntaf erioed yn y Fanaweg: Dunveryssyn yn Tooder-Folley ("Y Llofruddiaethau Fampyr"), hefyd gan Brian Stowell.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]