Llangar

Oddi ar Wicipedia
Llangar
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCynwyd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.971°N 3.397°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ0642 Edit this on Wikidata
Cod postLL21 Edit this on Wikidata
Map

Plwyf eglwysig ym mro hanesyddol Edeirnion, gogledd Cymru, yw Llangar. Mae'n gorwedd yn Sir Ddinbych heddiw ond bu gynt yn rhan o Sir Feirionnydd. Prif bentref y plwyf yw Cynwyd.[1] Tair nant a bryn yw ei ffiniau: Bryn Bu'r Gelyn yw'r bryn, a gorwedd hwnnw y tu ôl i blasty bychan Bryntirion, ger Corwen; y tair nant yw: Nant Croes y Wernen (i'r De), Nant Rhydyglafes (i gyfeiriad y Bala) a Nant Rhyd-y-Saeson yw'r ffin gogleddol (ger Four Crosses a Glanrafon.[2]

Cofnodir y plwyf yn yr arolwg o Feirionnydd a wnaed ar ran Coron Lloegr yn 1292-3 fel un o chwech yng nghwmwd Edeirnion.

Gorwedd y plwyf yng nghanol Edeirnion, rhwng plwyfi Llandrillo a Chorwen, gan godi i lethrau'r Berwyn i'r dwyrain. Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol bu'n rhan o Bowys.

Canolfan crefyddol y plwyf am ganrifoedd oedd y llan lle ceir Eglwys Llangar heddiw, tua hanner ffordd rhwng Cynwyd a Chorwen yn Nyffryn Edeirnion, ar lan Afon Dyfrdwy. Bu'r llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Eifionydd yn wreiddiol, yn berson yno o 1721 tan 1748; aeth un o'i wyrion, David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar fordaith y Capten James Cook yn 1776-78. Mae'n bosib mai llygriad o hen enw'r eglwys (Llan-y-carw-gwyn) yw tarddiad yr enw Llangar.[2]

Englynion i Langar[golygu | golygu cod]

Meysydd a dolydd sydd deg – hoff lesawl
     A phalasau pur, gwiwdeg;
  Yn wych iawn yn ychwaneg
  Tan Ferwyn yn ddyffryn teg.

Odiaeth a pherffaith, ie yw – y Goror
     A garaf fi heddiw,
  Llangar, plwyf hyfryd ydyw,
  Y fan fydd le da i fyw.

Ffowc Wynn o Nantglyn (1684)[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 117.
  2. 2.0 2.1 O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 13.
  3. Trefor O. Jones, O Ferwyn i Fynyllod (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t.11