Llanferres

Oddi ar Wicipedia
Llanferres
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth827 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,535.7 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.137°N 3.214°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000164 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ188604 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llanferres("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n gorwedd wrth droed llethrau dwyreiniol Bryniau Clwyd, ar y briffordd A494, tua hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug i'r gogledd-ddwyrain a Rhuthun i'r de-orllewin.

Saif y pentref ar lan orllewinol Afon Alun. I'r gorllewin ceir bryngaer Foel Fenlli. yng nghanol y penterf mae Eglwys Sant Berres, Llanferres, a godwyd yn wreiddiol yn yr Oesoedd Canol.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn yr Oesoedd Canol roedd y plwyf yn rhan o gwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys (Powys Fadog).

Chwedl werin[golygu | golygu cod]

Mae Morfudd ferch Urien a'i brawd Owain ab Urien yn ymddangos mewn hen chwedl werin Gymraeg a gysylltir a rhyd yn y plwyf a elwid yn Rhyd-y-gyfarthfa. Byddai holl gŵn y wlad yn dod yno i gyfarth, ond ni feiddiai neb fynd yno i weld beth oedd yn ei achosi nes i Urien Rheged fynd, a darganfod merch yn golchi dillad. Cafodd Urien ryw gyda'r ferch yn y rhyd, ac yna dywedodd hi ei bod yn ferch i frenin Annwn, a bod tynged arni i olchi wrth y rhyd nes cael mab gan Gristion. Dywedodd wrth Urien am ddychwelyd ymhen blwyddyn, a phan ddaeth, cyflwynodd hi ddau blentyn iddo, Owain a Morfudd.

Enwogion[golygu | golygu cod]

Ganwyd yr ysgolhaig ac awdur Dr John Davies (c. 1567 - 1644), a adwaenir fel Dr John Davies, Mallwyd, yn Llanferres tua'r flwyddyn 1567.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanferres (pob oed) (827)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanferres) (162)
  
20.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanferres) (337)
  
40.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanferres) (93)
  
30.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato