Llanallgo

Oddi ar Wicipedia
Llanallgo
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3413°N 4.2557°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH503855 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Moelfre, Ynys Môn, Ynys Môn, yw Llanallgo[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yng ngogledd-ddwyrain yr ynys gerllaw pentref Moelfre, ar lôn yr A5025.

Hanes[golygu | golygu cod]

Eglwys[golygu | golygu cod]

Mae Eglwys Sant Gallgo yng nghanol y pentref. Dywedir fod Gallgo/Allgo yn un o feibion Gildas, felly gall fod y safle yn dyddio i'r 6g. Nid oes unrhyw weddillion o'r cyfnod hwnnw i'w gweld; mae'r rhan fwyaf o'r eglwys bresennol yn ganlyniad ail-adeiladu yn y 19g.

Y Royal Charter[golygu | golygu cod]

Daeth Llanallgo i sylw pan ddrylliwyd y llong Royal Charter ar y creigiau gerllaw yn Hydref 1859. Ym mynwent Llanallgo y claddwyd y rhan fwyaf o'r cyrff a gafodd eu darganfod, a gellir gweld y beddau a chofeb yn y fynwent. Daeth rheithor Llanallgo ar y pryd, y Parchedig Stephen Roose Hughes, i amlygrwydd hefyd trwy ei ymdrechion yn gofalu am y cyrff, ceisio darganfod pwy oeddynt a chysuro'r teuluoedd. Credir i hyn achosi ei farwolaeth gynamserol ef ei hun yn fuan wedyn. Gellir gweld ei fedd yn y fynwent, ac mae pobl yr ardal yn parhau i ofalu amdano.

Cofeb y Royal Charter ym mynwent Llanallgo

Hynafiaethau[golygu | golygu cod]

Mae nifer o hynafiaethau gerllaw, yn cynnwys siambr gladdu Lligwy, olion tai Din Lligwy, oedd yn drigfan pennaeth neu uchelwr brodorol yng nghyfnod y Rhufeiniaid a gweddillion Capel Lligwy o'r 12g.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Rhagfyr 2021