Lewis Edwards

Oddi ar Wicipedia
Lewis Edwards
Ganwyd27 Hydref 1809 Edit this on Wikidata
Llanbadarn Fawr Edit this on Wikidata
Bu farw19 Gorffennaf 1887 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpennaeth Edit this on Wikidata
PriodJane Edwards Edit this on Wikidata
PlantThomas Charles Edwards, Llewelyn Edwards Edit this on Wikidata

Gweinidog, athro, athronydd a phennaeth cyntaf Coleg y Bala oedd Lewis Edwards (27 Hydref 1809 - 19 Gorffennaf 1887).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Edwards ym Mhwllcenawon, Pen-llwyn, ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, Sir Aberteifi. Bu'n ddisgybl mewn nifer o ysgolion yn y cylch, ac yn 1827 agorodd ysgol ei hun yn Aberystwyth. Yn fuan wedyn daeth yn athro yn ysgol Llangeitho.[1]

Yn 1829 derbyniwyd ef yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Aeth i goleg yn Llundain, a ddaeth yn ddiweddarach yn Brifysgol Llundain, ond bu raid iddo adael ar ôl blwyddyn. Aeth yn genhadwr cartrefol i Dalacharn, yna aeth i Brifysgol Caeredin lle graddiodd yn D.D. yn 1835.[1]

Yn 1836, priododd Jane Charles, ŵyres Thomas Charles o'r Bala, a'r flwyddyn wedyn agorodd ysgol yn y Bala a ddatblygodd i fod yn Goleg y Bala, athrofa i bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd.[1]

Ystyrid ef yn un o bregethwyr amlycaf ei gyfnod, ac roedd yn awdur toreithiog. Gyda Roger Edwards a Thomas Gee, dechreuodd Y Traethodydd yn 1845. Ef oedd arweinydd amlycaf y Methodistiaid Calfinaidd erbyn rhan olaf ei oes, a daeth dan feirniadaeth Emrys ap Iwan am ei gefnogaeth i'r "Achosion Saesneg". Mab iddo oedd Thomas Charles Edwards, Prifathro cyntaf Prifysgol Aberystwyth.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Portread o Lewis Edwards

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Athrawiaeth yr Iawn
  • Traethodau Llenyddol (1867)
  • Traethodau Duwinyddol
  • Hanes Duwinyddiaeth
  • Person Crist

Llyfrau amdano[golygu | golygu cod]

  • T. C. Edwards, Bywyd a Llythyrau Lewis Edwards (1901)
  • G. Tecwyn Parry, Cofiant a Gweithiau Dr. Edwards (1892)
  • T. R. Jones, Lewis Edwards, D.D., y Bala (1909).
  • T. Lloyd Evans, Lewis Edwards, ei fywyd a'i waith (1967)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]