Lemonwellt

Oddi ar Wicipedia
Lemonwellt
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Ddim wedi'i restru: Comelinidau
Urdd: Poales
Teulu: Poaceae
Is-deulu: Panicoideae
Llwyth: Andropogoneae
Genws: Cymbopogon
Spreng.
Rhywogaethau

tua 55

Math o wellt ydy lemonwellt (Saesneg: Lemongrass; Lladin: Cymbopogon) sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth mwyn bwyd yn India. Ceir 55 gwahanol fath yn y genws hwn.

Fe'i defnyddir fel arfer mewn cawl, te neu gyri a hynny gyda chyw iâr, pysgod a bwyd môr.

Caiff ei ddefnyddio'n helaeth i wneud olew 'citronella' i gadw mosgitos i ffwrdd neu i wneud canhwyllau a sebon. Dengys ymchwil gwyddonol fod ei olew yn cynnwys rhinweddau gwrth-ffwngal (Saesneg: antifungal).[1] Gall dyfu i fod hyd at 2 metr o uchder.

Rhinweddau meddygol[golygu | golygu cod]

Dywed rhai y gall wella Cen gwallt (dandruff).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Shadab, Q., Hanif, M. & Chaudhary, F.M. (1992) Antifungal activity by lemongrass essential oils. Pak. J. Sci. Ind. Res. 35, 246-249.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]