Le Morte d'Arthur

Oddi ar Wicipedia
Le Morte d'Arthur
Delwedd:1485 malory thomas le morte darthur-image.png, The Birth, Life, and Acts of King Arthur.png
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurThomas Malory Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Canol Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1485 Edit this on Wikidata
GenreRhamant, Arthurian romance Edit this on Wikidata
Cymeriadauy Brenin Arthur, Lawnslot, Gwenhwyfar Edit this on Wikidata
Yn cynnwysThe Tale of King Arthur Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLloegr, Camelot Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia


Rhan o "Cwsg olaf Arthur" gan Edward Burne-Jones

Le Morte d'Arthur, neu Le Morte Darthur yn yr argraffiad cyntaf ("Marwolaeth Arthur") yw'r pwysicaf o'r fersiynau o'r chwedlau am y brenin Arthur yn y traddodiad Seisnig. Mae'n gasgliad o ddeunydd Ffrengig a Seisnig am Arthur gan Syr Thomas Malory (c. 1405 - 1471), wedi eu hail-adrodd yn ôl syniadau Malory ei hun, ac yn cynnwys rhywfaint o waith gwreiddiol Malory ei hun yn stori Gareth. Un ffynhonnell bwysig oedd y Lawnslot-Greal, gwaith Ffrangeg o ddechrau'r 13g. Er gwaethaf yr enw Ffrangeg, testun Saesneg ydyw.

Argraffwyd y llyfr am y tro cyntaf yn 1485 gan William Caxton, a daeth yn eithriadol o boblogaidd. Mae'n cynnwys wyth stori wahanol:

  1. "Fro the Maryage of Kynge Uther unto Kyng Arthure that Regned Aftir Hym and Ded Many Batayles"
  2. "The Noble Tale Betwyxt Kynge Arthure and Lucius the Emperor of Rome"
  3. "The Noble Tale of Sir Launcelot Du Lake"
  4. "The Tale of Sir Gareth of Orkney"
  5. "The Fyrst and the Secunde Boke of Syr Trystrams de Lyones" (hanes Trystan ac Esyllt)
  6. “The Noble Tale of the Sankgreal” (yr ymchwil am y Greal Santaidd)
  7. "Sir Launcelot and Queen Gwenyvere"
  8. "The Dethe of Arthur"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.