La Tristesse Durera (Scream to a Sigh)

Oddi ar Wicipedia

Sengl gan y Manic Street Preachers yw "La Tristesse Durera (Scream to a Sigh)", a ryddhawyd fel ail sengl yr albwm Gold Against the Soul (1993).

Dyfyniad o eiriau'r arlunydd Vincent Van Gogh ar ei wely angau yw'r Ffrangeg yn nheitl y gân, ac o gyfieithu'r geiriau yn fras golygant "Mae'r tristwch yn parhau". Y teitl uchod yw unig eiriau'r gytgan. Mae'r gân yn trafod y modd mae'r gymdeithas yn gyffredinol yn diystyru hen filwyr ac yn anghofio amdanynt o ddydd i ddydd ond yn gwneud pantomeim ohonynt unwaith y flwyddyn.

Cyrhaeddodd y sengl rif 22 yn siart y senglau ar yr unfed ar ddeg ar hugain o Orffennaf 1993.

Cadarnhawyd poblogrwydd y gân wrth ymddangosiad La Tristesse Durera ar yr albwm Forever Delayed, casgliad o ganeuon gorau'r band.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.