Kreis

Oddi ar Wicipedia
Map o ddosbarthiadau'r Almaen, gyda melyn yn dynodi'r dosbarth dinesig a gwyn yn ddosbarthiadau gwledig.

Mae'r landkreis (bathiad Cymraeg: Dosbarth) yn endid daearyddol-wleidyddol yn yr Almaen sy'n debyg i'r sir Gymreig o ran maint daearyddol a'i gyfrifoldeb gweinyddol. Nid yw'n bodoli, fodd bynnag, yng Ngogledd Rhine-Westphalia nac yn Schleswig-Holstein lle caiff ei adnabod fel kreis. Defnyddir y term 'kreis' hefyd yn answyddogol am bob un o'r 'siroedd' hyn. Nid yw dinasoedd mwya'r Almaen yn rhan o'r endidau hyn, ond maent yn gwneud gwaith tebyg ar ei liwt eu hunain. Gelwir y rhain yn Kreisfreie Stadt (llythrennol: "dosbarth gwledig") neu Stadtkreis ("ddosbarth dinesig").

O ran cyfrifoldebau gweinyddol, mae'r kreis yn gorwedd rhwng Talaith (y Länder) a'r bwrdeisdre llai a elwir yn Gemeinden.

Niferoedd[golygu | golygu cod]

Rhennir yr Almaen i 402 Dosbarth gweinyddol: 295 dosbarth gwledig[1] (Kreise a Landkreise), a 107 Dosbarth dinesig (Kreisfreie Städte a Stadtkreise).[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Country Compendium, A companion to the English Style Guide" (PDF). European Commission Directorate-General for Translation (EC DGT). Mai 2014. tt. 47–48. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-04-01. Cyrchwyd 2016-08-18.
  2. "Kreisfreie Städte und Landkreise nach Fläche und Bevölkerung auf Grundlage des ZENSUS 2011 und Bevölkerungsdichte - Gebietsstand 31.12.2013" (yn German). Statistisches Bundesamt Deutschland. Hydref 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol (XLS) ar 2015-01-01. Cyrchwyd 2 Chwefror 2015.CS1 maint: unrecognized language (link)