Kieffer Moore

Oddi ar Wicipedia
Kieffer Moore

Kieffer Moore May 2014.jpg
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnKieffer Roberto Francisco Moore[1]
Dyddiad geni (1992-08-08) 8 Awst 1992 (31 oed)
Man geniTorquay, Lloegr
Taldra6 ft 5 in (1.96 m)[2]
SafleBlaenwr
Y Clwb
Clwb presennolWigan Athletic
Rhif19
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2012–2013Truro City22(13)
2013Dorchester Town13(7)
2013–2015Yeovil Town50(7)
2015–2016Viking F.K.9(0)
2016–2017Forest Green Rovers33(7)
2016Torquay United (ar fenthyg)4(5)
2017–2018Ipswich Town11(0)
2017–2018Rotherham United (ar fenthyg)22(13)
2018–2019Barnsley51(21)
2019–Wigan Athletic9(0)
Tîm Cenedlaethol
2016Tîm Lloegr C1(0)
2019–Cymru2(1)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 20:44, 29 September 2019 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 20:48, 10 October 2019 (UTC)

Mae Kieffer Roberto Francisco Moore (ganed 8 Awst 1992 yn Torquay, Lloegr) yn bêl-droediwr sy'n chwarae i Gymru sydd wedi chwarae fel ymosodwr ac amddiffynnwr. Yn 2019 roedd yn chwarae gydag Wigan Athletic F.C..

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Moore yn Torbay, swydd Dyfnaint ac mae wedi chwarae i sawl tîm mewn sawl gwahanol haen o bêl-droed Lloegr gan gynnwys cyfnod yn Norwy. Chwaraeodd i dîm ieuectid Torbay cyn symud i chwarae i Truro, prifddinas Cernyw ac yna Dorchester. Yn ystod ei gyfnod gyda'r clybiau yma fel chwaraewr lled-broffesiynnol enillodd rhagor o gyfnod fel lifeguard ac hyfforddwr ffitrwydd personol.[3]

Gyrfa clwb[golygu | golygu cod]

Ym Mehefin 2013 ymunodd Moore â Yeovil Town F.C. Ar 3 Awst 2015 symudodd i Uwch Gynghrair Norwy, gyda'r clwb Viking F.K. yn Stavanger gan chwarae naw gêm.[4]

Dychwelodd o Norwy i Loegr gan chwarae am gyfnodau byr gyda Forest Green Rovers ac yna Torbay United F.C. Ar 15 Ionawr 2017, ymunodd â chlwb Ipswich Town F.C. ym mis Ionawr 2017.

Ar 10 Gorffennaf 2017, mae ar fenthyg i Rotherham United F.C., gan sgorio 13 gôl mewn 25 gêm.

Ar 8 Ionawr 2018, ymunodd â Barnsley F.C..

Ar 5 Awst 2019, ymunodd â Wigan Athletic F.C. tîm yn adran Championship (ail adran) Lloegr am sŵm na ddatgelwyr.[5]

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Er i Moore ennill cap gydag England C (a adnebir yn gynt fel "England National Game XI" a'r "England Semi-Pro") yn 2016, dewisodd chwarae i Gymru. Roedd yn gallu cymwyso i chwarae i Gymru drwy ei fam-gu o Gymraeg ar ochr ei fam.[6] Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn y gêm yn erbyn Belarws ym mis Medi 2019.[3] Nododd mewn cyfweliad gyda'r BBC bod ei esgyniad drwy adrannau rhan-amser a bod yn warchodwr y glannau i chwarae pêl-droed ryngwladol i Gymru yn "swreal".[3] Sgoriodd unig gôl Cymru yn y gêm gyfartal rhwng Cymru a Slofacia yn Trnava.[7]

Ymateb ffans Cymru[golygu | golygu cod]

Yn dilyn ei gôl gyntaf i Gymru yn y gêm yn erbyn Slofacia ar 10 Hydref 2019, dathlwyd ei gamp gan gefnogwyr Cymru. Cyfarchodd cyfrif Twitter Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei gôl gyda'r geiriau "Kieffer Mawr".[8] Cafwyd hefyd amrywiad ar dôn Cwm Rhondda:[9]

Head of heaven
Six foot seven
Feeeeed me till I'm Kieffer Moore (Kieffer Moore)
Feeeeed me till I'm Kieffer Moore

Rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Diweddarwyd match played 10 October 2019[10]
Ymddangosiadau a goliau fesul tîm cenedlaethol a blwyddyn
Tîm cenedlaethol Blwyddyn Ymddangos Goliau
Cymru 2019 2 1
Cyfanswm 2 1

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Club list of registered players: As at 19th May 2018: Barnsley" (PDF). English Football League. t. 4. Cyrchwyd 16 June 2018.
  2. "Yeovil Town: Gary Johnson sees Kieffer Moore potential". BBC Sport. 8 July 2013. Cyrchwyd 8 July 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 https://www.bbc.co.uk/sport/football/49953930
  4. "KIEFFER KLAR FOR VIKING" [Kieffer ready for Viking] (yn Norwyeg). Viking FK. 3 August 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 August 2015. Cyrchwyd 3 August 2015.
  5. "Kieffer Moore: Wigan Athletic sign striker from Barnsley for undisclosed fee". BBC Sport. 5 August 2019. Cyrchwyd 5 August 2019.
  6. "Kieffer Moore: Uncapped Barnsley striker in Wales training squad for Portugal". BBC Sport. 21 May 2019.
  7. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/50005054
  8. https://twitter.com/Cymru/status/1182376347445989376
  9. https://twitter.com/hrj2605/status/1182406428348354565
  10. National-Football-Teams.com


Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.