Kenneth Waltz

Oddi ar Wicipedia
Kenneth Waltz
Ganwyd8 Mehefin 1924 Edit this on Wikidata
Ann Arbor, Michigan Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mai 2013 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • William Thornton Rickert Fox Edit this on Wikidata
Galwedigaethacademydd, gwyddonydd gwleidyddol, athronydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddcadeirydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Heinz I. Eulau Award Edit this on Wikidata

Ysgolhaig cysylltiadau rhyngwladol o Americanwr sy'n gysylltiedig â damcaniaeth neo-realaeth oedd Kenneth Neal Waltz (8 Mehefin 192412 Mai 2013).[1][2] Roedd yn athro ym Mhrifysgol Columbia. Ei lyfr enwocaf yw Man, the State, and War (1959) a gyflwynodd y cysyniad o lefelau dadansoddi i faes cysylltiadau rhyngwladol. Bathwyd y term "lefelau dadansoddi" gan J. David Singer yn ei adolygiad o'r llyfr yn y cyfnodolyn World Politics yn Ebrill 1960. Disgrifiodd Waltz tair delwedd wrth geisio esbonio achosion rhyfel: yr unigolyn, lle bo natur ddynol yn achosi rhyfel; y wladwriaeth, lle bo systemau llywodraethol neu sefyllfaoedd gwleidyddol o fath arbennig yn achosi rhyfel; a'r system ryngwladol, lle bo anllywodraeth yn gwneud rhyfel yn sefydliad cymdeithasol anochel.

Ysgrifennodd hefyd Theory of International Politics (1979) gan ymhelaethu ar y syniad o fyd deubegynol gyda dau brif rym, sef yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer. Ym 1995 cyhoeddwyd The Spread of Nuclear Weapons: A Debate, sef trafodaeth am arfau niwclear rhwng Waltz a'r Athro Scott Sagan o Brifysgol Stanford.

Yn 2008 cynhaliodd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth gynhadledd academaidd er anrhydedd i Waltz, "The King of Thought: Theory, the Subject and Waltz".[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Martin, Douglas (18 Mai 2013). Kenneth Waltz, Foreign-Relations Expert, Dies at 88. The New York Times. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.
  2. (Saesneg) Langer, Emily (21 Mai 2013). Kenneth N. Waltz, scholar of international relations, dies at 88. The Washington Post. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.