Kelibia

Oddi ar Wicipedia
Kelibia
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth58,491 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNabeul Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau36.8475°N 11.0939°E Edit this on Wikidata
Cod post8090 Edit this on Wikidata
Map
Harbwr Kelibia

Mae Kelibia (Kélibia) (Arabeg: قليبية) yn dref arfordirol ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Cap Bon, yn nhalaith Nabeul yng ngogledd-ddwyrain Tiwnisia. Mae'n 58 km i'r gogledd o ddinas Nabeul. Dominyddir y borthladd yr hen gaer Fysantaidd. Mae Kelibia yn borthladd pysgota sy'n gartref i Ysgol Bysgota Genedlaethol Tiwnisia. Mae gan y dref boblogaeth o 43,209 (2004), gyda'r mwyafrif yn byw yn y dref newydd tua milltir i'r de-orllewin o'r borthladd.

Kelibia oedd prif ganolfan Cap Bon yn y cyfnod Rhufeinig, oherwydd ei sefyllfa strategol a'i harbwr dwfn. Dechreuodd fel tref fechan Ferber. Cafodd ei datblygu gan y Carthaginaid o'r 5g CC ymlaen. Codwyd caer ganddynt ar safle'r gaer ganoloesol bresennol a oedd yn rhan bwysig o darian amddiffyn Carthago ei hun, gan roi iddi ei henw Ffeniceg Aspis ('tarian'). Cipiwyd y dref gan y Rhufeiniaid dan Regulus a thyfodd yn ddinas Rufeinig dan yr enw Clypea (a ddaeth yn 'Kelibia' gyda threiglad amser).

Cododd y Bysantiaid gaer newydd ar safle'r gaer Garthagenaidd yn y 6g OC. Fe'i meddianwyd ar ôl hynny gan yr Arabiaid, y Sbaenwyr (am gyfnod byr yn yr 16g) a'r Otomaniaid. Yn yr Ail Ryfel Byd cafodd ei defnyddio gan y lluoedd Almaenig.

Rhai milltiroedd i'r gogledd o Kelibia ceir safle archaeolegol Kerkouane, lle ceir adfeilion unigryw dinas Ffeniciaidd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]