Kate Roberts

Oddi ar Wicipedia
Kate Roberts
Ganwyd13 Chwefror 1891 Edit this on Wikidata
Rhosgadfan, Cae'r Gors Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ebrill 1985 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, awdur plant Edit this on Wikidata
PriodMorris T. Williams Edit this on Wikidata

Roedd Kate Roberts (13 Chwefror 18914 Ebrill 1985) yn llenor enwog yn y Gymraeg. Fe'i ganed ym mhentref Rhosgadfan, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd) a bu farw yn Ninbych. Gelwir Kate Roberts yn "Frenhines y stori fer".

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cae'r Gors

Kate Roberts oedd plentyn cyntaf Owen a Catrin Roberts. Roedd ei thad yn chwarelwr. Roedd ganddi hi ddwy hanner-chwaer a dau hanner-brawd hŷn o briodasau cyntaf ei rhieni (John Evan, Mary, Jane ac Owen) a thri brawd iau (Richard, Evan a David). Ganed hi yn y bwthyn teuluol Cae'r Gors, yn Rhosgadfan ar lethrau Moel Tryfan. Yn ddiweddarach byddai'r bywyd yng Nghae'r Gors a'r pentref yn gefndir hollbwysig yn ei gwaith llenyddol cynnar. Mae ei chyfrol hunangofiannol Y Lôn Wen yn bortread cofiadwy o'r ardal yn y cyfnod hwnnw. Prynodd Roberts Gae'r Gors yn 1965 a'i gyflwyno i'r genedl, ond nid oedd digon o arian i'w adfer ar y pryd. Nis adferwyd tan 2005 ar ôl brwydr hir i'w ariannu, ac mae erbyn hyn o dan ofal Cadw ac yn amgueddfa i'r awdures.

Aeth hi i Ysgol y Cyngor, Rhosgadfan (1895–1904) ac wedyn i Ysgol Sir Gaernarfon (1904–10). Astudiodd Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor rhwng 1910 a 1913 o dan John Morris-Jones ac Ifor Williams. Bu'n athrawes yn Ysgol Elfennol Dolbadarn (1913–14), Ysgol Sir Ystalyfera, De Cymru (1915–17) a Ysgol Sir y Genethod, Aberdâr (1917–28).

Priododd Kate Roberts a Morris T. Williams (g. 1900), argraffydd, yn 1928. Gyda'i gilydd, roeddent yn rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych. Bu ei gŵr farw ym 1946, a bu'n rhedeg Gwasg Gee am 10 mlynedd ar ei phen ei hun. Yn ei lyfr, Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985, awgryma Alan Llwyd fod gan Roberts dueddiadau hoyw.[1]

Ei gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Yn ei blynyddoedd cynnar fel llenor ysgrifennai nofelau a storïau byrion am dlodi a chaledi ardal y chwareli yng ngogledd Cymru. Yn ddiweddarach, ar ôl symud i Ddinbych a phriodi, troes at ysgrifennu nofelau a straeon mwy seicolegol gydag unigrwydd yn thema amlwg ynddynt. Cyfieithwyd rhai o'u gweithiau i'r Saesneg ac i ieithoedd eraill.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gwaith Kate Roberts[golygu | golygu cod]

Astudiaethau a llyfrau eraill[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Kate a gwraig y cigydd Gwefan Golwg 360. 18-11-2011. Adalwyd ar 22-11-2011

Dolen allanol[golygu | golygu cod]


Llyfrau Kate Roberts
Deian a Loli | Ffair Gaeaf | Gobaith | Haul a Drycin | Hyn o Fyd | Laura Jones | Prynu Dol | O Gors y Bryniau | Rhigolau Bywyd | Stryd y Glep | Tegwch y Bore | Te yn y Grug | Traed Mewn Cyffion | Tywyll Heno | Y Byw Sy'n Cysgu | Y Lôn Wen | Yr Wylan Deg