János Arany

Oddi ar Wicipedia
János Arany
Ganwyd2 Mawrth 1817 Edit this on Wikidata
Salonta Edit this on Wikidata
Bu farw22 Hydref 1882 Edit this on Wikidata
Budapest Edit this on Wikidata
DinasyddiaethHwngari Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Diwygiedig Debrecen Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd, bardd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amToldi trilogy Edit this on Wikidata
PriodJulianna Ercsey Edit this on Wikidata
PlantJulianna Arany, László Arany Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Sant Steffan o Hwngari Edit this on Wikidata
llofnod

Llenor o Hwngari oedd János Arany (Hwngareg: Arany János) (2 Mawrth 181722 Hydref 1882), a oedd yn adnabyddus fel newyddiadurwr, awdur, bardd, a chyfieithydd. Mae wedi cael ei ddigrifio fel "Shakespeare y faled" – cyfansoddodd dros 40 baled sydd wedi cael eu cyfieithu i dros 50 o ieithoedd. Ef hefyd yw awdur tair cyfrol y Toldi a'r gerdd ramantaidd A Walesi Bárdok ('Beirdd Cymru').

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganwyd y llenor yn Nagyszalonta, tref Hwngariadd ar y pryd sy'n rhan o Rwmania heddiw. Dysgodd Almaeneg, Ffrangeg a Lladin. Yn 1845, enillodd gystadleuaeth lenyddol y Kisfaludy Társaság am ei gerdd "Az elveszett alkotmány" ('Y Cyfansoddiad Coll'). Ar ôl cyhoeddi ei waith mawr Toldi, daeth yn gyfaill i Sándor Petőfi. Cafodd marwolaeth ei gyfaill yn Chwyldro Hwngaraidd 1848 effaith fawr arno fel gwladgarwr a democrat.

Gweithiodd fel athro yn Nagykőrös, lle enwir yr amgueddfa leol ar ei ôl. Cafodd ei ethol yn aelod o Academi Gwyddoniaeth Hwngari yn 1858 a daeth yn ysgrifennydd cyffredinol yr academi yn 1865. Bu'n gyfarwyddwr etholedig y Gymdeithas Kisfaludy hefyd, cymdeithas lenyddol fwyaf Hwngari.

Bu farw Arany yn Budapest ar 22 Hydref 1882.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Un o'r cerddi enwocaf gan y bardd yw "A Walesi Bárdok" ('Beirdd Cymru'), cerdd wladgarol ramantaidd sy'n seiliedig ar yr hanesyn am gyflafan y beirdd yng Nghymru gan Edward I o Loegr. Ysgrifennodd Arany y gerdd pan ymwelodd Franz Joseph, Ymerodr Awstria, â Hwngari ar ôl iddo gorchyfygu Chwyldro Hwngaraidd 1848. Yn wreiddiol, roedd Arany wedi cael ei gomisiynu i gyfansoddi cerdd o fawl i'r ymerodr. Ond yn y gerdd mae Arany yn defnyddio'r hanesyn am feirdd Cymru i ddangos y modd anghyfiawn y trinwyd Hwngari a'r Hwngariaid gan Ymerodraeth Awstria. Daeth yn gerdd adnabyddus iawn yn Hwngari. Mae diolch i'r gerdd hon yn anad dim fod yr Hwngariaid yn gwybod am Gymru.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]