Josiah Rees

Oddi ar Wicipedia
Josiah Rees
Ganwyd2 Hydref 1744 Edit this on Wikidata
Llanfair-ar-y-bryn Edit this on Wikidata
Bu farw20 Medi 1804 Edit this on Wikidata
Llan-giwg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethemynydd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
TadOwen Rees Edit this on Wikidata
PlantOwen Rees, Sarah Rees, Richard Rees Edit this on Wikidata

Roedd Josiah Rees (2 Hydref 1744 - 20 Medi 1804) yn weinidog Undodaidd Cymreig ac yn olygydd y cyfnodolyn Cymraeg cyntaf.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Rees yng Nghlun Pentan, Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin yn blentyn i Owen Rees,[2] gweinidog gyda'r Annibynwyr a Mary (née Howell) ei wraig, fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Solomon Harris yn Abertawe ac yn Academi Caerfyrddin. Roedd yn gyd efrydydd yn yr academi gyda Dafydd Dafis, Castellhywel; daeth y ddau yn gyfeillion oes.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Capel Gellionnen

Tra yn y coleg cafodd Rees alwad i fod yn weinidog ar gapel Annibynnol Gellionnen yn Llan-giwg ym 1763. Derbyniodd yr alwad yn amodol ar gael gorffen ei gwrs addysg yng Nghaerfyrddin. Ymadawodd a'r Academi ym 1767 a chafodd ei ordeinio i'r weinidogaeth yng Ngellionnen ar 6 Awst 1767. Bu hefyd yn cadw ysgol ddyddiol yn Llan-giwg.

Yn ystod ei weinidogaeth newidiodd barn ddiwinyddol Rees a'i gynulleidfa. Symudasant o Galfiniaeth traddodiadol yr Annibynwyr i Arminiaeth ac wedyn o Arminiaeth i Undodiaeth. Ail adeiladwyd a helaethwyd Capel Gellionnen ym 1801 a daeth yn ganolfan bwysig i achos yr Undodiaid yn neheudir Cymru. Yn y capel cafwyd y drafodaeth gychwynnol i sefydlu Cymdeithas Undodaidd De Cymru. Wedi sefydlu'r gymdeithas bu Rees yn arwain yr oedfa i'w sefydlu yng Nghefncoedycymer ym 1803.[3]

Y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i'w gyhoeddi oedd Tlysau yr Hen Oedodd o dan olygyddiaeth Lewis Morris. Dim ond un rhifyn a gyhoeddwyd a methodd uchelgais Morris i'w droi yn gyfnodolyn. Ym 1770 sefydlodd Rees y cylchgrawn Trysorfa Gwybodaeth neu Eurgrawn Cymraeg. Roedd y cylchgrawn yn cynnwys wyth tudalen o hanes Cymru, wyth tudalen o erthyglau ar bynciau amrywiol, wyth tudalen o farddoniaeth ac wyth tudalen o newyddion. Methodd y cylchgrawn ar ôl 6 mis a 15 rhifyn gyda dyledion o £100. Serch hynny gan fod cyfres o 15 rhifyn wedi eu cyhoeddi, i Rees berthynai'r bri o fod y golygydd cyntaf ar gyfnodolyn Cymraeg.[4]

Cyfieithodd Rees nifer o lyfru o'r Saesneg i'r Gymraeg gan gynnwys Catecism, neu, Egwyddorion crefydd (cyfieithiad o A catechism, or, The principles of religion gan Henry Read 1770) Hunan-adnabyddiaeth (Self-knowledge gan John Mason 1771) [5] a Casgliad o Salmau Cân, allan o Waith Isaac Watts, ac Amryw Eraill: wedi eu haddasu at Addoliad Cymdeithasol. Cyhoeddodd ei gyfansoddiad ei hun Pregeth yn erbyn Enllib a phob Gogan-air ym 1776.[6]

Teulu[golygu | golygu cod]

Bu Rees yn briod ddwywaith. Bu farw Catherine Howell ei wraig gyntaf ym 1768 ychydig ar ôl eu priodas. Ei ail wraig oedd Mary Jones o Ben y Glog Caerfyrddin bu iddynt 10 o blant. Ymysg y plant bu Owen Rees (1770-1837) partner yng nghwmni cyhoeddi Longmans,[7] Thomas Rees un o weinidogion Undodaidd mwyaf blaenllaw Llundain ei ddydd [8] a Josiah Rees (iau) conswl Prydeinig yn Smyrna yn yr Ymerodraeth Otoman.[1]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn y Gelli-gron yn 59 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent capel Gellionnen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "REES, JOSIAH (1744-1804), gweinidog Undodaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-02-21.
  2. "REES, OWEN (1717 - 1768), gweinidog gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-02-21.
  3. "Rees, Josiah (1744–1804), Unitarian minister and journal editor". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/23285. Cyrchwyd 2021-02-21.
  4. BETH OEDD ENW Y CYHOEDDIAD WYTHNOSOL CYNTAF A ARGRAFFWYD YN Y GYMRAEG Y Brython Cyf. I rhif. I 25 Mehefin 1858 adalwyd 21 Chwefror 2021
  5. AMRYWIAETH LLYFRAU CYMRU Y gwladgarwr Cyf. VIII rhif. 95 - Tachwedd 1840 adalwyd 21 Chwefror 2021
  6. Llyfryddiaeth y Cymry Ieuan Lleyn tud 575 adalwyd 21 Chwefror 2021
  7. Cwm Tawy Y Traethodydd Ionawr 1869 adalwyd 21 Chwefror 2021
  8. "Rees, Thomas (1777–1864), Unitarian minister and writer on theological history bookseller". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/23288. Cyrchwyd 2021-02-21.