Joseph McCarthy

Oddi ar Wicipedia
Joseph McCarthy
GanwydJoseph Raymond McCarthy Edit this on Wikidata
14 Tachwedd 1908 Edit this on Wikidata
Grand Chute Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mai 1957 Edit this on Wikidata
Bethesda, Maryland Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol, barnwr, cyfreithiwr, ffermwr, usher, anti-communist Edit this on Wikidata
Swyddbarnwr, barnwr, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol, plaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
PriodJean Kerr Minetti Edit this on Wikidata
Gwobr/auY Groes am Hedfan Neilltuol Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd Americanaidd oedd Joseph Raymond "Joe" McCarthy (14 Tachwedd 19082 Mai 1957) oedd yn Seneddwr Gweriniaethol dros Wisconsin o 1947 hyd ei farwolaeth ym 1957. Wrth i'r Rhyfel Oer ddwysáu, arweiniodd ymgyrch, McCarthyaeth, i ddatgelu comiwnyddion ac ysbiwyr Sofietaidd a honnir i weithio yn yr Adran Amddiffyn, y Fyddin, ac adrannau eraill llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau. Enillodd ei ymgyrch gefnogaeth nes gwrandawiadau'r Fyddin—McCarthy ym 1954, pan ofynnodd cwnsler y Fyddin Joseph Welch iddo "At long last, have you left no sense of decency?". O ganlyniad i dactegau McCarthy a'i anallu i brofi ei gyhuddiadau, cafodd ei geryddu gan y Senedd. Bu farw o lid yr afu, yn debyg â chysylltiad i'w alcoholiaeth.