Joseph Hughes

Oddi ar Wicipedia
Joseph Hughes
Joseph a'i delyn
Ganwyd27 Hydref 1827 Edit this on Wikidata
y Bala Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mai 1841 Edit this on Wikidata
o boddi Edit this on Wikidata
Llyn Hudson, Afon Hudson Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethtelynor, cyfansoddwr Edit this on Wikidata

Roedd Joseph Tudor Hughes (27 Hydref 182712 Mai 1841) (a oedd yn perfformio dan yr enw Master Hughes) yn delynor ifanc addawol Cymreig a oedd yn berfformiwr hynod boblogaidd yng ngwledydd Prydain a'r Unol Daleithiau yn y 1830au[1].

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Joseph yn y Bala ym 1827 yn fab i David Hughes. Yn fuan wedi ei enedigaeth symudodd y teulu i fyw i Lundain.[2]

Mor ifanc a dwyflwydd a hanner oed roedd yn dangos brwdfrydedd mawr dros gerddoriaeth ac yn arbennig cerddoriaeth y delyn. Cafodd hyfforddiant i ganu'r delyn gan delynor o'r enw T ap James.[3] Yn bum mlwydd oed perfformiodd ei gyngerdd cyhoeddus cyntaf yn neuadd gyngerdd Hanover Square, Llundain. Wedi clywed Joseph yn perfformio ym 1833, cyflwynodd y meistr cynhyrchu telynau, Sabastian Erard, telyn pedolau gwerth 80 gini iddo[4]. Ar ei delyn Erard bu Joseph yn perfformio am weddill ei yrfa. O 1833 bu Joseph ar deithiau perfformio helaeth trwy Loegr, Cymru a'r Iwerddon. Bu nifer fawr o foneddigion ac uchelwyr yn heidio i'w gyngherddau. Roedd ei dad yn cadw llyfr llofnodion o'r pwysigion oedd yn mynychu'r cyngherddau; roedd y llyfr yn cynnwys enwau aelodau o'r teulu brenhinol, arglwyddi ac arglwyddesau, archesgobion ac esgobion, cadfridogion a llawer o arweinwyr cymdeithasol eraill.

Weithiau byddai'n cael ei gefnogi yn ei gyngherddau gan ei ddau frawd. Un o'r brodyr hyn oedd yr Athro David Edward Hughes.[5]

Yn ogystal â chanu'r delyn bu hefyd yn cyfansoddi i'r offeryn. Cyhoeddodd rhai o'i drefniadau a'i cyfansoddiadau yn ei lyfr British Melodies ym 1839[6].

Yr Eisteddfod[golygu | golygu cod]

Ym 1835 bu'n canu'r delyn yn eisteddfod Llannerch-y-medd. Cafodd ei urddo i'r Orsedd fel ofydd gan Glwydfardd. Ei Enw yn Orsedd oedd Blegwryd ab Seisyllt. Ac yntau dim ond yn 8 mlwydd oed ar y pryd, mae'n bosibl mae ef yw'r person ifancaf erioed i gael ei urddo'n aelod o'r Orsedd. Yn Eisteddfod y Bala, 1836, gwnaed ef yn destun ar gyfer y Gadair! Awdl gan Walchmai fu'n fuddugol.[7]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Ym 1838 ymfudodd y teulu i Unol Daleithiau America lle fu'n parhau i deithio fel cerddor. Ar 12 Mai 1841 aeth y teulu am daith ar gwch ar hyd Llyn Hudson. Trodd y cwch drosodd a boddwyd Joseph ac yntau dim ond yn 13 mlwydd oed.[8]

Galeri[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Y bywgraffiadur- HUGHES , JOSEPH TUDOR (' Blegwryd '; 1827 - 1841 )".
  2. Y cerddor Cyf. VI rhif. 61 - Ionawr 1 1894 adalwyd 28.06.2018
  3. Salisbury and Winchester Journal 07 Ebrill 1834 Tud 4 Colofn 3 The concert given on Wednesday
  4. Manchester Times 05 Rhagfyr 1835 Master Hughes' Concert Tud 2 Colofn 5
  5. Y ford gron Cyfrol 4, Rhif 9, Gorffennaf 1934 Blegywryd y Bachgen Delynor adalwyd 28/06/2018
  6. "Radio inventor's talented brother; LETTERS".
  7. Yr Awdl fuddugawl ar Master Hughes ... Testyn y Gadair i Eisteddfod y Bala ...gan Richard PARRY (Gwalchmai.) adalwyd 28/06/2018
  8. "The Death of Master Hughes - The Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette and Merthyr Guardian". William Mallalieu. 1841-06-19. Cyrchwyd 2018-06-28.