Jorge Eliécer Gaitán

Oddi ar Wicipedia
Jorge Eliécer Gaitán
Ganwyd23 Ionawr 1903 Edit this on Wikidata
Bogotá Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ebrill 1948 Edit this on Wikidata
Bogotá Edit this on Wikidata
DinasyddiaethColombia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • National University of Colombia Edit this on Wikidata
Galwedigaethacademydd, cyfreithegwr Edit this on Wikidata
SwyddMinister of Education of Colombia, Maer Bogotá Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Colombia Edit this on Wikidata
PlantGloria Gaitán Edit this on Wikidata

Gwleidydd sosialaidd o Golombia oedd Jorge Eliécer Gaitán (26 Ionawr 19029 Ebrill 1948)[1] a fu'n weinidog yn llywodraeth y Blaid Ryddfrydol ac yn arweinydd poblyddol amlwg yn y 1930au a'r 1940au. Cafodd ei lofruddio yn ystod ymgyrch arlywyddol 1948, gan sbarduno'r cyfnod yn hanes Colombia a elwir La Violencia.

Ganed yn Bogotá, prifddinas Colombia. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Genedlaethol Colombia, Bogotá, ac yn Rhufain. Yno dylanwadwyd arno gan ddulliau gwleidyddol a rhethregol Benito Mussolini, er nad oedd Gaitán yn ffasgydd. Dychwelodd i Golombia a fe'i etholwyd yn aelod o Dŷ'r Cynrychiolwyr dros Dalaith Cundinamarca ym 1929, ac yn ei araith gyntaf yn y siambr fe laddai ar amodau planhigfeydd y United Fruit Company. Ymunodd Gaitán â Phlaid Ryddfrydol Colombia ym 1933, a sefydlodd ymblaid ei hun, Undeb Cenedlaethol Chwyldroadol y Chwith (Union Nacional Izquierdista Revolucionaria; 1933–35), cyn iddo ddychwelyd i'r Blaid Ryddfrydol. Gwasanaethodd yn Faer Bogotá o 1936 i 1937, yn weinidog addysg o 1940 i 1941, ac yn weinidog llafur, iechyd a lles cymdeithasol o 1943 i 1944.

Ymgyrchodd Gaitán am arlywyddiaeth Colombia am y tro cyntaf ym 1946, yn arweinydd ar ymblaid radicalaidd y Rhyddfrydwyr ac yn erbyn Gabriel Turbay, ymgeisydd swyddogol y Blaid Ryddfrydol. Enillwyd yr etholiad gan Mariano Ospina Pérez, ymgeisydd y Blaid Geidwadol, o ganlyniad i'r rhwyg yn y Blaid Ryddfrydol. Yn ystod ei ail ymgyrch arlywyddol, ym 1948, llofruddiwyd Gaitán mewn cyfarfod o Gynhadledd Ryngwladol Gwladwriaethau'r Amerig yn Bogotá. Achoswyd terfysgoedd ar draws y brifddinas, a elwir El Bogotazo, gan nodi cychwyn y ddeng mlynedd o wrthdaro ar draws y wlad a elwir La Violencia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Jorge Eliécer Gaitán. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Mai 2020.