John Wimburn Laurie

Oddi ar Wicipedia
John Wimburn Laurie
Ganwyd1 Hydref 1835 Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mai 1912 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
PlantGeorge Brenton Laurie Edit this on Wikidata

Roedd John Wimburn Laurie (1 Hydref 183519 Mai 1912) yn filwr Prydeinig ac yn wleidydd a wasanaethodd fel Aelod yn Senedd Canada a Senedd y Deyrnas Unedig.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Laurie yn Llundain ym 1835 yn fab i John Laurie ac Eliza Helen (née Collett). Gwasanaethodd John fel Aelod Seneddol Ceidwadol Barnstaple ym 1854.[1]

Cafodd ei addysgu yn ysgol fonedd Harrow ac Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst.

Priododd Frances Robie Collins (merch Enos Collins) ym 1863 a chawsant wyth o blant.

Gyrfa filwrol[golygu | golygu cod]

Ymunodd Laurie a'r Fyddin Brydeinig ym 1853 fel llumanwr yn 2il bataliwn y Queen's Royal Regiment of Foot. Cafodd ei benodi'n Is-gapten ac wedyn yn Gapten ym 4ydd bataliwn The King's Own Regiment of Foot, gan ymladd yn Rhyfel y Crimea ym 1855 a gwasanaethu yn yr India o 1858. Ym 1861 aeth i Ganada fel Uwch-gapten ar wasanaeth arbennig, bu'n gwasanaethu yng Nghanada fel Swyddog Maes Arolygol y Milisia yn Nova Scotia ac wedyn fel Dirprwy Adjutant Cyffredinol y Milisia yn Nova Scotia hyd 1881. Bu'n gwasanaethu yn ystod cyrchoedd y Ffeniaid rhwng 1866 a 1870. Ym 1881 gwasanaethodd yn Ne Affrica cyn dychwelyd i Ganada gan arwain lluoedd Prydain yn erbyn y brodorion yn ystod Gwrthryfel y Gogledd Orllewin ym 1885. Ymddeolodd o'r fyddin ym 1887 gyda'r radd Is-gadfridog.[2]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Cynrychiolodd Laurie etholaeth Shelbourne, Nova Scotia, fel Ceidwadwr yn Nhŷ Cyffredin Canada o 1887 tan 1891.[3] Dychwelodd i Wledydd Prydain ym 1892 a safodd fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Penfro a Hwlffordd yn etholiad cyffredinol 1892. Enillwyd y sedd gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol Charles Francis Egerton Allen; safodd eto yn yr un etholaeth yn etholiad 1895 gan lwyddo cipio'r sedd gyda mwyafrif o 169 pleidlais. Llwyddodd i gadw'r sedd yn etholiad cyffredinol 1900 gyda mwyafrif o ddim ond 2 bleidlais (ar ôl ail gyfri ar orchymyn barnwrol cynyddwyd y mwyafrif i 15). Penderfynodd beidio ag amddiffyn y sedd yn etholiad 1906.

Wedi ymadael a gwleidyddiaeth Seneddol gwasanaethai fel gwleidydd lleol gan gael ei ethol yn Henadur ar Gyngor Fwrdeistref Paddington yn Llundain a gan wasanaethu fel Maer y Fwrdeistref ym 1907.

Bywyd cyhoeddus amgen[golygu | golygu cod]

Roedd Laurie yn aelod amlwg o'r Seiri Rhyddion gan wasanaethu fel Uchel Feistr yr urdd yn Nova Scotia ac fel Uchel Feistr Taleithiol Deheudir Cymru.[4]

Yn ystod ei gyfnod yn Nova Scotia, bu'n gwasanaethu fel llywydd y Bwrdd Amaethyddol Canolog ac fel Cadeirydd adran masnach Canada o Siambr Fasnach Llundain. Sefydlodd cymuned Oakfiel yn Nova Scotia, lle mae Parc Laurie wedi enwi er cof amdano.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Exeter and Plymouth Gazette 24 Mai 1912 tudalen 5
  2. http://www.archeion.ca/john-wimburn-laurie-fonds adalwyd 28 Ion 2015
  3. LAURIE, John Wimburne; PARLIAMENT of CANADA [1] Archifwyd 2015-01-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 28 onawr 2015
  4. Obituaries Yorkshire Post and Leeds Intelligencer 22 Mai 1912
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Francis Egerton Allen
Aelod Seneddol Penfro a Hwlffordd
18951906
Olynydd:
Owen Cosby Philipps