John Williams, Archesgob Efrog

Oddi ar Wicipedia
John Williams, Archesgob Efrog
Ganwydc. 22 Mawrth 1582, 22 Mawrth 1582, 25 Mawrth 1582 Edit this on Wikidata
Conwy Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mawrth 1650 Edit this on Wikidata
o Quinsy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad, barnwr, diwinydd, gwleidydd, archesgob Edit this on Wikidata
SwyddArchesgob Efrog, Esgob Lincoln, esgob Edit this on Wikidata
TadEdmund Williams Edit this on Wikidata
MamMary Wynn Edit this on Wikidata

Clerigwr Cymreig a ddaeth yn Archesgob Efrog ac Arglwydd Ganghellor oedd John Williams (25 Mawrth 158225 Mawrth 1650).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed John Williams, neu Siôn Iorc, ym Mhlas Isaf, Llansanffraid Glan Conwy,[2] yn fab i Edmund a Mary Williams. Perthynai i deulu uchelwrol; roedd ei dad yn perthyn i deuluoedd Cochwillan a'r Penrhyn a'i fam i Wyniaid Gwydir. Aeth i ysgol ramadeg Rhuthun yna yn 1598 i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt.

Yn 1611 rhoddodd bregeth gyda'r brenin Iago I/VI yn bresennol, a gwnaeth gryn argraff arno. Yn 1612 aeth yn gaplan i'r arglwydd-ganghellor Ellesmere, ac yn 1620 daeth yn ddeon San Steffan. Y flwyddyn wedyn apwyntiwyd ef yn esgob Lincoln, ac yn fuan wedyn daeth yn Arglwydd Ganghellor.

Roedd John Williams yn uchel yn ffafr y brenin Iago, ond nid oedd ei berthynas gyda'i fab, Siarl I cystal. Diswyddwyd ef fel Arglwydd Ganghellor yn 1625. Roedd ffefrynnau Siarl, Buckingham a Laud, yn elynion iddo, ac yn 1637 taflwyd ef i garchar, lle bu hyd 1640. Y flwyddyn honno, rhyddhawyd ef a daeth yn gynghorydd i Siarl, ac yn 1641 daeth yn Archesgob Efrog.

Dychwelodd i ogledd Cymru yn 1642, a threfnodd i atgyweirio Castell Conwy ar ei gost ei hun a'i amddiffyn dros blaid y Brenin. Gwaethygodd ei berthynas gyda phlaid y Brenhinwyr, fodd bynnag, ac ym Mai 1645 cafodd ei droi allan o'r castell Syr John Owen, Clenennau. Trodd Williams i gefnogi'r Senedd, a chynorthwyodd y Seneddwyr i ymosod ar Gonwy yn Awst 1646.

Bu farw yn 1650 yn y Gloddaeth, cartref teulu Mostyn, a chladdwyd ef yn eglwys Llandygai.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Archaeologia Cambrensis: The Journal of the Cambrian Archaeological Association (yn Saesneg). W. Pickering. 1921. t. 293.
  2. Coflein - Plas Isaf adalwyd 25 Chwefror, 2019
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: