John Jones, Gellilyfdy

Oddi ar Wicipedia
John Jones, Gellilyfdy
Ganwyd1578 Edit this on Wikidata
Ysgeifiog Edit this on Wikidata
Bu farw1658 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgeiriadurwr, ieithydd, cyfreithiwr, gwerthwr hen greiriau Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaYstoria Ysgan ab Asgo Edit this on Wikidata

Copïydd llawysgrifau a hynafiaethydd Cymreig oedd John Jones, Gellilyfdy (tua 1585 — 1657/58).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd yn enedigol o blas Gellilyfdy, plwyf Ysgeifiog yn Sir y Fflint. Canodd y beirdd Wiliam Llŷn a Wiliam Cynwal farwnadau ar ôl ei daid, Siôn ap Wiliam, a feddai ar gasgliad o lawysgrifau roedd llawer ohonynt yn ymwneud ag ardal Dyffryn Clwyd. Etifeddwyd y casgliad gan ei fab, William Jones. Daeth ei fab yntau, John Jones, yn gyfarwydd â'r llawysgrifau hyn yn gynnar yn ei oes.

Roedd John Jones mewn anawsterau ariannol parhaus, ac fe'i carcharwyd am ddyled nifer o weithiau, o leiaf deirgwaith yng Ngharchar y Fflyd yn Llundain.

Yn ystod ei dymhorau yn y carchar y gwnaeth lawer o'i waith copïo llawysgrifau, ond gweithiai hefyd yng Nghaerdydd (1612) ac ym mhlasdai uchelwyr mewn sawl rhan o Gymru. Mae dros gant o'i lawysgrifau ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac eraill yn Llyfrgell Dinas Caerdydd a'r Amgueddfa Brydeinig. Nodweddir y llawysgrifau hyn gan ei arddull unigryw a chain, ac addurnir y testun yn aml â lluniau bychain ac addurniadau eraill. Roedd ganddo gysylltiad agos â'r hynafiaethydd Robert Vaughan, ysgwïer Hengwrt, ac o'r herwydd cadwyd llawer o'i lawysgrifau yng nghasgliad Hengwrt (Llawysgrifau Peniarth yn ddiweddarach).

Yn llaw John Jones ceir yr unig destun o'r chwedl Ystoria Ysgan ab Asgo sydd ar glawr, a ysgrifennwyd ganddo ar 23 Rhagfyr 1608.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. T. H. Parry-Williams (gol.), Rhyddiaith Gymraeg: Detholiad o Lawysgrifau 1488-1609 (Caerdydd, 1954), tt. 144-6.