John Evans (Y Bardd Cocos)

Oddi ar Wicipedia
John Evans
FfugenwY Bardd Cocos Edit this on Wikidata
Ganwyd1826 Edit this on Wikidata
Porthaethwy Edit this on Wikidata
Bu farw1888 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaRoyal Charter, Traeth Lafan, Pont Britannia Edit this on Wikidata

Cymeriad hynod a rhigymwr unigryw oedd John Evans neu Y Bardd Cocos (18261888), a aned ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn. Roedd yn hel cocos o'r traeth i ennill ei damaid a dyna a barwyd iddo gael ei lys enw ar ôl iddo ddod yn adnabyddus am ei gerddi anfwriadol ddigrif ac ysmala. Roedd ganddo feddwl mawr ohoni'i hun fel bardd yn arbennig ar bynciau mawr y dydd fel 'Suddo'r Royal Charter' (mewn hyn o beth roedd yn dilyn ffasiwn beirdd eisteddfodol ei ddydd). Roedd y llewod ar y Bont Britannia newydd er enghraifft yn,

Pedwar llew tew
Heb ddim blew,
Dau ochr yma
A dau ochr drew.[1]

Ymarddelai'r teitl rhwysgfawr 'Archfardd Cocysaidd Tywysogol'. Yn ei draethawd 'Gwaith yr Awen Rydd a Chaeth' mae'n esbonio fod 'gwaith yr archfardd yn waith caled, fel gwaith ceffyl, yn yr oes bresennol' gan fod neb llawer yn gwerthfawrogi ei ddoniau. Serch hynny roedd ganddo wir athrylith ddiniwed ac mae rhai o'i rigymau yn haeddianol enwog. Dyma enghraifft arall o'i waith, pennill agoriadol ei 'Gân Newydd ar Briodas y Prince of Wales':

Mae Prince of Wales wedi priodi
A miloedd heddyw'n byw mewn tlodi;
Gobeithio y ceiff hir oes,
Heb ddyodde'r un loes,
I fyw yn llawen ac yn llon
Efo'i fenw gron,
A handlo ffon, yn bur llon, o don i don,
Cyn rhoddi ffarwel i'r ddaear hon.[2]

Daeth sawl rhigymwr arall i herio ei deitl, fel Elias Jones (Cocosfardd y De) er enghraifft, ac enillodd y geiriau 'cocosfardd' 'cocoswaith' a 'cocosaidd' eu lle yn y geiriaduron, ond ni all neb gystadlu a'r Archfardd ei hun.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Alaw Ceris (Thomas Roberts), "Bardd Cocos": Ei Hanes, Ei Swydd, ynghyd a'i Weithiau Barddonol (Porthaethwy, 1923).
  2. "Bardd Cocos": Ei Hanes, Ei Swydd, ynghyd a'i Weithiau Barddonol.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Alaw Ceris (Thomas Roberts), "Bardd Cocos": Ei Hanes, Ei Swydd, ynghyd a'i Weithiau Barddonol (Porthaethwy, 1923)