Jingoaeth

Oddi ar Wicipedia

Cenedlaetholdeb ar ffurf polisi tramor ymosodol a rhyfelgar yw jingoaeth.[1] Deillia'r gair o Ryfel Rwsia a Thwrci (1877–78), pan anfonwyd adlynges Brydeinig o'r Môr Canoldir i Gallipoli i rwystro'r Rwsiaid. Bu ymateb ffyrnig yn Lloegr o blaid polisi'r llywodraeth, a chafodd y cefnogwyr eu galw'n "jingoaid" ar ôl y pennill hwn:

"We don't want to fight, yet by jingo, if we do,
We've got the ships, we've got the men,

And got the money, too!"[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  jingoaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Ebrill 2018.
  2. (Saesneg) Jingoism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Ebrill 2018.