Jelinger Cookson Symons

Oddi ar Wicipedia
Jelinger Cookson Symons
Ganwyd27 Awst 1809 Edit this on Wikidata
Bu farw1860 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethnewyddiadurwr, golygydd, ysgrifennwr, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
TadJelinger Symons Edit this on Wikidata

Bargyfreithiwr ac arolygydd ysgolion o Loegr oedd Jelinger Cookson Symons[1] (27 Awst 18097 Ebrill 1860).[2] Mae'n adnabyddus fel un o'r tri chomisiynydd a oedd yn gyfrifol am yr adroddiad Inquiry into the State of Popular Education in Wales (1847) – y Llyfrau Gleision drwg-enwog.

Fe'i ganwyd yn West Ilsley, Berkshire, yn fab i'r Parch. Jelinger Symons (1778–1851), ficer Radnage, Swydd Buckingham. Astudiodd yng Ngholeg Corpus Christi, Caergrawnt (1827–32). Cafodd ei alw i'r Bar yn y Deml Ganol, Llundain, ym 1843, a daeth yn fargyfreithiwr ar Gylchdaith Rhydychen.

Yn 1837 fe'i penodwyd gan y Swyddfa Gartref yn aelod y comisiwn brenhinol ynghylch gwehyddion gwŷdd llaw. Yn 1840 fe'i penodwyd i'r Comisiwn Cyflogaeth Plant. Gwasanaethodd hefyd fel comisiynydd degwm.

Yn 1846 fe'i penodwyd, gyda Ralph Robert Wheeler Lingen a Henry Robert Vaughan Johnson – dau fargyfreithiwr arall o Loegr – yn gomisiynydd ymchwiliad seneddol i gyflwr addysg yng Nghymru. Ar adeg pan oedd mwyafrif y boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg roedd y tri chomisiynydd yn siaradwyr Saesneg uniaith. Roeddent yn dibynnu i raddau helaeth ar dystiolaeth unochrog gan dirfeddianwyr a chlerigwyr Anglicanaidd a ddifenwasant iaith, addysg a moesoldeb y Cymry Cymraeg. Roedd adroddiadau Symons yn ymdrin â Sir Frycheiniog, Sir Aberteifi, Sir Faesyfed, a Sir Fynwy. Arweiniodd adroddiad y comisiynwyr – a gyhoeddwyd mewn cloriau glas ym 1847 – at ddicter yng Nghymru, a daeth y mater yn adnabyddus fel Brad y Llyfrau Gleision.

Yn 1848 penodwyd Symons yn arolygydd ar gyfer ysgolion Deddf y Tlodion, gyda chyfrifoldeb dros Gymru a Gorllewin Lloegr. Yn ei waith mwyaf adnabyddus, Tactics for the Times: as Regards the Condition and Treatment of the Dangerous Classes (1849), lleisiodd Symons yr ofn a deimlai llawer o aelodau dosbarth llywodraethol y cyfnod bod ymddygiad troseddol ar gynnydd, oherwydd dirywiad moesol ac anhrefn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mae rhai ffynonellau yn rhoi sillafu ei enw bedydd fel "Jellynger", ond mewn dogfennau swyddogol (gan gynnwys y Llyfrau Gleision) mae'n ymddangos fel "Jelinger".
  2. John Shepherd (2008), "Symons, Jelinger Cookson", Oxford Dictionary of National Biography