Jebel Chambi

Oddi ar Wicipedia
Jebel Chambi
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirKasserine Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Uwch y môr1,544 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.2067°N 8.6831°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddDorsal Tiwnisia Edit this on Wikidata
Map
Golygfa o gopa uchaf Jebel Chambi

Mynyddoedd yng ngorllewin Tiwnisia yw Jebel Chambi (Arabeg: جبل الشعانبي), sy'n cynnwys copa uchaf y wlad honno (1544m). Mae'n rhan o gadwyn y Dorsal ac yn gorwedd i'r gorllewin o Kasserine a'r mynyddoedd i'r de-orllewin o El Kef, yng ngogledd-orllewin canolbarth Tiwnisia, am y ffin ag Algeria.

Natur[golygu | golygu cod]

Agorwyd Parc Cenedlaethol Chambi yn 1980 er mwyn gwarchod planhigion a bywyd gwyllt yr ardal.

Brwydro 2013[golygu | golygu cod]

Yn 2013, ymsefydlodd grwp o wrthryfelwyr Islamaidd ym mynyddoedd Jebel Chambi. Lladdwyd wyth milwr Tiwnisiaidd gan y gwrthryfelwyr ar 29 Gorffennaf 2013.[1] Ddechrau mis Awst 2013 dechreuodd byddin Tiwnisia ymosod ar eu llochesau gan ddefnyddio gynnau ac ymosodiadau o'r awyr gan awyrennau Llu Awyr Tiwnisia. Yn ôl terfysgwr a ddalwyd, mae'r jihadwyr yn cynnwys Algeriaid, Mawritaniaid a Nigeriaid ond mae'r mwyafrif yn Tiwnisiaid.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.