Iâl

Oddi ar Wicipedia
Iâl
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTeyrnas Powys Edit this on Wikidata
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9792°N 3.1595°W Edit this on Wikidata
Map

Cwmwd yn nheyrnas Powys, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, oedd Iâl. Roedd yn gwmwd "annibynnol", heb fod yn rhan o gantref. Pan dorrodd y deyrnas honno yn ddwy ran yn y 12g daeth yn rhan o dywysogaeth Powys Fadog. Erys yr enw 'Iâl' (Saesneg: Yale) fel enw am y fro heddiw.

Map braslun yn dangos prif israniadau Powys

Hanes[golygu | golygu cod]

Castell Dinas Brân.
Arfau Arglwyddiaeth Iâl

Roedd y cwmwd yn gorwedd ar safle strategol yng ngogledd y deyrnas wrth y ffin rhwng Powys a'r Berfeddwlad (Gwynedd Is Conwy). Ffiniai â chantref Dyffryn Clwyd a darn o Degeingl i'r gorllewin a'r gogledd, yn y Berfeddwlad, Ystrad Alun a Maelor Gymraeg i'r dwyrain, a Nanheudwy (Swydd y Waun) ac Edeirnion i'r de, ym Mhowys ei hun.

Dyma galon tywysogaeth Powys Fadog. Llain hir o ucheldir yw Iâl sy'n cynnwys rhan uchaf dyffryn Afon Alun a rhan o ddyffryn Dyfrdwy ger Llangollen. Mae copa Moel Famau, ym mhen deheuol Bryniau Clwyd, yn nodi ffin ogleddol y cwmwd. Yma roedd amddiffynfa gadarn hanesyddol Castell Dinas Brân, yn dominyddu'r dramwyfa i'r gorllewin o gyfeiriad Lloegr. Eglwys hynafol Llanarmon yn Iâl oedd prif ganolfan eglwysig y cwmwd yn y cyfnod cynnar, wedi ei chysegru i Sant Garmon, nawddsant Teyrnas Powys. Sefydliad eglwsig arall o bwys oedd Abaty Glynegwestl. Yma hefyd, ger yr abaty hwnnw, ceir Piler Eliseg. Ger Llandegla ceir castell Tomen y Rhodwydd a godwyd gan Owain Gwynedd yn 1149.

Ar ôl cwymp Tywysogaeth Cymru yn 1282-83, cafodd ei uno â Maelor Gymraeg i ffurfio arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl (Bromfield and Yale). Daeth yn rhan o'r Sir Ddinbych newydd yn 1536. O blasdy Plas yn Iâl roedd teulu Yale yn arglwyddiaethu ar gymdeithas y fro; un o'r teulu hwnnw oedd Elihu Yale, y cymwynaswr addysg yr enwir Prifysgol Yale yn UDA ar ei ôl. Heddiw mae bro Iâl yn rhan o Sir Ddinbych eto ar ôl cyfnod yn sir Clwyd.

Plwyfi[golygu | golygu cod]

Ceir pedwar plwyf hanesyddol yn Iâl:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Frank Price Jones, Crwydro Dwyrain Dinbych (Cyfres Crwydro Cymru, 1961)
  • J.E. Lloyd, A History of Wales (Longmans, 3ydd arg, 1939)
  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986)