Izaak Walton

Oddi ar Wicipedia
Izaak Walton
Portread o Izaak Walton gan Jacob Huysmans (tua 1672) a gedwir yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol.
Ganwyd9 Awst 1593 Edit this on Wikidata
Stafford Edit this on Wikidata
Bu farw15 Rhagfyr 1683 Edit this on Wikidata
Caerwynt Edit this on Wikidata
Man preswylChebsey Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, cofiannydd Edit this on Wikidata
PlantIzaak Walton Edit this on Wikidata

Llenor Seisnig oedd Izaak Walton (9 Awst 159315 Rhagfyr 1683) sydd yn nodedig fel awdur The Compleat Angler (1653) ac am ei fywgraffiadau.

Ganed Izaak Walton ar 9 Awst 1593 yn Stafford, Swydd Stafford. Cafodd rywfaint o addysg cyn aeth yn brentis i lieiniwr yn Llundain. Yno, daeth i feddiant siop ei hun ac enillodd incwm digonol. Darllenwr brwd oedd Walton, ac er iddo dderbyn dim ond ychydig o addysg roedd yn hoff o astudiaethau ysgolheigaidd a fe fu'n gyfeillgar â gwŷr hyddysg. Bu'n byw yn agos i Eglwys St Dunstan, ac roedd yn weithgar yn ei blwyf ac yn gyfaill i ficer yr eglwys, y bardd John Donne. Buont yn aml yn pysgota gyda'i gilydd.[1]

Priododd Walton â Rachel Floud yn 1626, a chawsant saith o blant. Bu farw pob un ohonynt yn fabanod, ac yn 1642 bu farw Rachel hefyd. Priododd Walton ag Anne Ken, hanner-chwaer yr emynydd Thomas Ken, yn 1647, a chawsant dri phlentyn, a bu farw un ohonynt yn faban. Yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr, Brenhinwr pybyr oedd Walton. Yn 1640 ysgrifennodd The Life and Death of Dr. Donne a gyhoeddwyd mewn argraffiad o bregethau ei ddiweddar gyfaill. Cyhoeddodd ei ail fywgraffiad, The Life of Sir Henry Wotton, yn 1651. Ysgrifennodd ei waith enwocaf, The Compleat Angler, or, the Contemplative Man’s Recreation, yn 1653 a chyhoeddodd pedwar golygiad arall ohono yn ystod ei oes.[1]

Yn sgil yr Adferiad, penodwyd ei gyfaill George Morley yn Esgob Caerwynt a rhoddwyd caniatâd i Walton fyw ym mhalas yr esgob am weddill ei oes. Ysgrifennodd ddau gofiant arall, The Life of Mr. Richard Hooker (1665) a The Life of Mr. George Herbert (1670), a chyhoeddwyd casgliad o'i holl fywgraffiadau yn 1670. Cyhoeddodd ei fywgraffiad olaf, am yr Esgob Robert Sanderson, yn 1678. Bu farw ar 15 Rhagfyr 1683 yng Nghaerwynt, yn 90 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Izaak Walton. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ionawr 2020.